Jackie Mason
Jackie Mason | |
---|---|
Jackie Mason yn 2006 | |
Ganwyd | Yacov Moshe Hakohen Maza 9 Mehefin 1928 Sheboygan |
Bu farw | 24 Gorffennaf 2021 Manhattan |
Label recordio | Columbia Records |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
Alma mater | |
Galwedigaeth | digrifwr, actor llais, actor llwyfan, actor ffilm, sgriptiwr, actor teledu, rabi |
Plaid Wleidyddol | plaid Weriniaethol |
Gwobr/au | Gwobr Emmy |
Gwefan | http://www.jackiemason.com |
Digrifwr stand-yp o'r Unol Daleithiau oedd Jackie Mason (9 Mehefin 1928 – 24 Gorffennaf 2021).
Bywyd cynnar
[golygu | golygu cod]Ganed Yacov Moshe Maza yn Sheboygan, Wisconsin, ar 9 Mehefin 1928, yn fab i linach hir o rabïaid Uniongred. Mewnfudwyr Iddewig tlawd o Felarws oedd ei rieni, y Rabi Eli Maza a'i wraig Bella Maza, Gitlin gynt. Symudodd y teulu i'r Lower East Side ym Manhattan, Efrog Newydd, pan oedd Yacov yn 5 oed. Derbyniodd radd baglor o Goleg y Ddinas, Efrog Newydd, cyn cychwyn ar ei astudiaethau rabinaidd yn yeshiva Mesivtha Tifereth Jerusalem ym Manhattan. Cafodd ei ordeinio a gwasanaethodd yn rabi yn Weldon, Gogledd Carolina, a Latrobe, Pennsylvania. Roedd yn anhapus wrth ei waith, ond nid oedd yn fodlon siomi ei dad.[1]
Anterth y Borscht Belt
[golygu | golygu cod]Cafodd flas ar y llwyfan drwy fwrw'r haf yn ysgrifennu ymsonau digri a'u perfformio i gynulleidfaoedd y Borscht Belt, y cyrchfannau gwyliau i Americanwyr Iddewig ym Mynyddoedd Catskill, yng nghefn gwlad talaith Efrog Newydd. Yn sgil marwolaeth Eli Maza ym 1959, teimlodd ei fab ei fod yn rhydd i ganlyn galwedigaeth ym myd adloniant, ac ymddiswyddodd Yacov Maza o'r synagog, i fod yn ddigrifwr, gan gymryd yr enw Jackie Mason.[1] Cychwynnodd ar hynt gyffredin y comedïwr Americanaidd yng nghanol yr 20g, gan ennill ei brofiad mewn clybiau nos Efrog Newydd, Los Angeles, a Miami, yn ogystal â'i berfformiadau yn y Catskills. Aeth ar deithiau stand-yp ar draws yr Unol Daleithiau, ac ymddangosodd yn aml ar y teledu yn sgil ei berfformiad ar The Steve Allen Show ym 1961. Rhyddhaodd ei record gomedi gyntaf, I'm the Greatest Comedian in the World, Only Nobody Knows It Yet, ym 1962.[2]
Ar 18 Hydref 1964, pan oedd Mason yn ddigrifwr gwadd ar The Ed Sullivan Show ar sianel CBS, torrwyd ar draws y rhaglen gan ddarllediad byw o araith gan yr Arlywydd Lyndon B. Johnson. Gwnaeth y cyflwynydd, Ed Sullivan, arwydd gyda'i fys at Mason i nodi y bydd toriad yn y rhaglen; wrth i'r sioe ddychwelyd yn fyw, gwnaeth Mason ystum gyda'i fys blaen i ddynwared Sullivan. Cafodd yr ystum ei gamgymryd am y bys canol a'i ystyried yn anweddus gan Sullivan. Addawodd Sullivan y byddai'n rhoi terfyn ar yrfa Mason ym myd adloniant, a na châi ei wahodd yn ôl i'r sioe eto.[3] Fodd bynnag, bu cyhoeddusrwydd yr helynt yn hwb i enwogrwydd Mason ar y pryd, a fe lwyddodd i erlyn Sullivan mewn achos enllib. Byddai Mason yn wyneb gyfarwydd ar sawl sioe sgwrs arall yn y 1960au, gan gynnwys The Joey Bishop Show a The Merv Griffin Show.[4]
Ymddangosodd yn theatr Broadway yn gyntaf ym 1969 yn y gomedi A Teaspoon Every Four Hours, a gyd-ysgrifennwyd gan Mason a Mike Mortman. Cafwyd 97 o rag-berfformiadau, y nifer fwyaf erioed ar y pryd hwnnw, ond caeodd y sioe wedi un perfformiad yn unig.[4]
Sioeau un dyn
[golygu | golygu cod]Ym 1986 perfformiodd ei sioe un dyn The World According to Me am y tro cyntaf yn Los Angeles. Symudodd y sioe i Broadway ac yno cafwyd 573 o berfformiadau. Enillodd Wobr Tony arbennig amdani ym 1987, a Gwobr Emmy yn sgil darlledu'r sioe ar y teledu ym 1988.[4] Perfformiodd sawl sioe un dyn arall, gan gynnwys Brand New (1990–91), Politically Incorrect (1994–95), Love Thy Neighbor (1996–97), Much Ado About Everything (1999–2000), Prune Danish (2002), Freshly Squeezed (2005), a The Ultimate Jew (2008).
Ffilm a theledu
[golygu | golygu cod]Ymddangosodd Mason mewn sawl ffilm gomedi, gan gynnwys The Stoolie (1972), The Jerk (1979), History of the World: Part 1 (1981), Caddyshack II (1988), a The Hitchhiker's Guide to the Galaxy (2005). Yn 1990, daeth yn gyfarwydd i wylwyr teledu yng Ngwledydd Prydain drwy An Audience with Jackie Mason ar Channel 4. Enillodd Wobr Emmy am leisio Hyman Krustofski, tad y cymeriad Krusty the Clown, yn The Simpsons, ac ymddangosodd mewn pum pennod arall o'r rhaglen honno.
Diwedd ei oes
[golygu | golygu cod]Cyflwynodd sioe sgwrs ei hun, The Jackie Mason Show, ar sianel CN 8 o 2005 i 2011, a rhaglen radio a ddarlledwyd ar draws yr Unol Daleithiau. Gyda'i gyfaill Raoul Felder, cyd-ysgrifennodd golofn ar-lein, a gyhoeddwyd hefyd yn The Washington Times. Ysgrifennodd Mason a Felder y llyfr Schmucks yn 2007.
Bu farw Jackie Mason yn ei gwsg yn Ysbyty Mount Sinai, Manhattan, yn 93 oed.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 (Saesneg) William Grimes, "Jackie Mason, 93, Dies; Turned Kvetching Into Comedy Gold", The New York Times (24 Gorffennaf 2021). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.is ar 12 Awst 2021.
- ↑ (Saesneg) Jonathan Margolis, "Jackie Mason obituary", The Guardian (25 Gorffennaf 2021). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.is ar 11 Awst 2021.
- ↑ Steve Krief, "Mason, Jackie" yn Encyclopedia of Jewish American Popular Culture, golygwyd gan Jack R. Fischel a Susan M. Ortmann (Westport, Connecticut: Greenwood Press, 2009), t. 282.
- ↑ 4.0 4.1 4.2 (Saesneg) Carmel Dagan, "Jackie Mason, One of the Last Borscht Belt Comedians, Dies at 93", Variety (24 Gorffennaf 2021). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.is ar 11 Awst 2021.
- Actorion yr 20fed ganrif o'r Unol Daleithiau
- Actorion yr 21ain ganrif o'r Unol Daleithiau
- Actorion ffilm o'r Unol Daleithiau
- Americanwyr Iddewig
- Cyflwynwyr radio o'r Unol Daleithiau
- Cyflwynwyr teledu o'r Unol Daleithiau
- Digrifwyr o'r Unol Daleithiau
- Genedigaethau 1928
- Hunangofianwyr Saesneg o'r Unol Daleithiau
- Llenorion yr 20fed ganrif o'r Unol Daleithiau
- Llenorion yr 21ain ganrif o'r Unol Daleithiau
- Marwolaethau 2021
- Pobl o Manhattan
- Pobl o Wisconsin
- Rabïaid