Iac
Gwedd
Iac | |
---|---|
Iac yn Letdar ger Annapurna, canolbarth Nepal. | |
Statws cadwraeth | |
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Animalia |
Ffylwm: | Chordata |
Dosbarth: | |
Urdd: | Artiodactyla |
Teulu: | Bovidae |
Genws: | Bos |
Rhywogaeth: | B. grunniens |
Enw deuenwol | |
Bos grunniens Linnaeus, 1766 | |
Cyfystyron | |
Poephagus grunniens |
Math o fuwch blewog a welir yn yr Himalayas yng nghanol Asia ac yd at Mongolia a Rwsia yw iac (ffurfiau lluosog: iaciaid, iacod)[2] neu ych crwbi[2] (Bos grunniens am yr un wedi'i ddofi, Bos mutus am yr anifail gwyllt – gweler isod).
Fel yr awgrymir uchod ceir poblogaeth helaeth o'r iac wedi'i ddofi a rhyw ychydig o rai gwyllt. Yn y 1990au cafwyd sawl prosiect i geisio gwarchod y rhai gwyllt.
Yr enw
[golygu | golygu cod]Daw'r gair Cymraeg "iac" drwy'r Saesneg yak o'r gair Tibeteg གཡག་(g.yag neu gyag) – sydd mewn Tibeteg yn cyfeirio at y gwryw o'r rhywogaeth. Eu henw ar y fenyw ydy dri neu nak. Mae'r gair Cymraeg, fel y Saesneg, yn cyfeirio at y ddau ryw.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Harris, R.B.; Leslie, D. (2008). Bos mutus, IUCN 2012, IUCN Red List of Threatened Species. Adalwyd 31 Rhagfyr 2012.
- ↑ 2.0 2.1 Geiriadur yr Academi, [yak].