Honolulu
Math | tref ddinesig, dinas fawr, consolidated city-county |
---|---|
Poblogaeth | 350,964 |
Pennaeth llywodraeth | Rick Blangiardi |
Cylchfa amser | Hawaii–Aleutian Time Zone |
Gefeilldref/i | Bruyères, Caracas, Seoul, Sintra, Uwajima, Chengdu, Yangzhou, Baguio, Baku, Cali, Candon, Cebu City, Chigasaki, Ardal Fengxian, Funchal, Haikou, Hiroshima, Huế, Incheon, Kaohsiung, Laoag, Majuro, Mandaluyong, Manila, Mombasa, Mumbai, Nagaoka, Naha, Qinhuangdao, Rabat, San Juan, Vigan, Zhangzhou, Zhongshan, Puerto Princesa, Warringah Council, Tokyo, New Orleans, Luganville, Fuzhou |
Daearyddiaeth | |
Sir | Honolulu County, tiriogaeth Hawäi, Teyrnas Hawai'i, Provisional Government of Hawaii |
Gwlad | Unol Daleithiau America |
Arwynebedd | 177.2 km² |
Uwch y môr | 12 metr |
Cyfesurynnau | 21.30469°N 157.85719°W |
Cod post | 96801–96850 |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | Maer Honolulu |
Pennaeth y Llywodraeth | Rick Blangiardi |
Prifddinas ac ardal mwyaf poblog Hawaii yw Honolulu. Er fod Honolulu yn cyfeirio at ardal dinesig ar arfordir de-ddwyreiniol yr ynys, mae'r ddinas a'r sir yn cydgyfnerthedig, acadnabyddir fel Dinas a Sir Honolulu, dynodir y ddinas a'r sir fel ynys Oahu gyfan. Dinas a Sir Honolulu yw unig ddinas corfforedig Hawaii, gan fod pob math arall o gyngor yn cael ei weinyddu ar lefel sirol. Yn ardal dynodedig Honolulu y cyfrifiad, roedd cyfanswm y boblogaeth yn 371,657 yn ystod Cyfrifiad yr Unol Daleithiau yn 2000, tra bod poblogaeth y Ddinas a'r Sir yn 909,863. Mae Honolulu yn golygu "bae wedi ei gysgodi" neu "lloches" yn yr Hawaïeg (iaith Hawaii).
Hanes
[golygu | golygu cod]Ni wyddwn pryd anheddwyd Honolulu am y tro cyntaf gan yr ymfudwyr gwreiddiol yr ynysfor, a ddaeth o Polynesia. Mae hanesion llafar ac arteffactau yn dangos y bu anheddiad lle safai Honolulu heddiw, yn yr 12g. Ond, wedi i Kamehameha I orchfygu Oahu ym Mrwydr Nuuanu yn Nuuanu Pali, symudodd ei lys brenhinol o Ynys Hawaii i Waikīkī yn 1804. Ail-leolwyd ei lys yn ddiweddarach, yn 1809, i'r ardal a adnabyddir heddiw fel Honolulu.
Yr estronwr cyntaf i hwylio yno oedd Capten William Brown o Loegr, yn 1794, gan lanio yn yr ardal sydd heddiw yn Borthladd Honolulu. Roedd nifer o longau eraill i'w ddilyn, gan droi'r borth yn ganolbwynt ar gyfer llongau masnach a oedd yn teithio rhwng Gogledd America ac Asia.
Yn 1845, symudodd Kamehameha III prifddinas parhaol Ternas Hawaii o Lahaina ar Maui, i Honolulu. Fe drawsnewidodd ef, a'r brenhinoedd a'i ddilynodd, Honolulu i beth a welwn heddiw, yn brifddinas cyfoes, gan adeiladu strwythrau megis Prifegwlys Sant Andrew, Palas Iolani, ac Aliiolani Hale. Yr un pryd, daeth Honolulu yn ganolfan masnach yr ynysoedd, gyda disgynyddion y cenhadon Americanaidd yn sefydlu busnesau pwysig yng nghanol tref Honolulu.
Er hanes terfysglyd yr 19g hwyr a'r 20g cynnar, a welodd cwymp brenhiniaeth Hawaii, a chyfeddiant Hawaii gan yr Unol Daleithiau, ac ymosodiad ar Pearl Harbor gan Japan, mae Honolulu wedi parhau fel prifddinas, dinas mwyaf, a phrif faes awyr a phorthladd Ynysoedd Hawaii.
Wedi i Hawaii gael ei droi'n dalaith, daeth ffyniant economaidd a thwristiaeth, gan achosi twf econmaidd i Honolulu a Hawaii. Daeth taith awyr cyfoes filoedd, ac yn y diwedd miloedd (y flyddyn), o ymwelwyr i'r ynysoedd. Erbyn heddiw, mae Honolulu yn ddinas cyfoes gyda nifer o adeiladau sawl llawr.