Gwesty
Math | llety, menter, adeiladwaith pensaernïol |
---|---|
Rhan o | diwydiant croeso, diwydiant gwesty, sector gwasanaeth bwyd a gwesty |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Sefydliad sy'n darparu llety am dâl am gyfnodau byr ydy gwesty. Yn y gorffennol, arferai llety elfennol olygu ystafell gyda gwely, cwpwrdd, bwrdd bychan a sinc ond i raddau helaeth mae ystafelloedd mewn gwestai mwy modern yn cynnwys cyfleusterau megis ystafell ymolchi en-suite a pheiriant rheoli'r tymheredd. Yn aml, ceir cyfleusterau ychwanegol fel ffôn, cloc larwm, teledu a chysylltiad i'r rhyngrwyd; gellir darparu byrbrydau a diodydd yn y bar-bychan, ac offer er mwyn gwneud diodydd poeth. Mae gan nifer o westai mwy o ran maint gyfleusterau fel bwytai, pyllau nofio, ac ystafelloedd cynadledda. Fel arfer, rhifir ystafelloedd mewn gwestai er mwyn i'r cwsmeriaid fedru adnabod eu hystafell.
Hanes
[golygu | golygu cod]Roedd gan y Rhufeiniaid dai llety ar hyd y prif ffyrdd. "Mansio" oedd enw'r math yma o adeilad.[1]
Dechreuodd llawer o westai ym Mhrydain fel tafarndai coetsis, fel y Gwesty'r Angel, Caerdydd[2] a Gwesty'r Arth, y Bont-Faen.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Guy De la Bédoyère (1992). English Heritage Book of Roman Towns in Britain (yn Saesneg). B.T. Batsford. t. 57. ISBN 9780713468939.
- ↑ Wells, Martin (5 Rhagfyr 2013). "Brian Lee recalls the illustrious history of one of Cardiff's legendary coaching inns". Wales Online (yn Saesneg). Cyrchwyd 24 Mai 2015.