[go: up one dir, main page]

Neidio i'r cynnwys

Gratianus (cyfreithegydd)

Oddi ar Wicipedia
Gratianus
Ganwyd11 g Edit this on Wikidata
Toscana Edit this on Wikidata
Bu farw12 g Edit this on Wikidata
Chiusi, Bologna Edit this on Wikidata
Galwedigaethcyfreithegwr, deddfegydd cyfraith yr eglwys, mynach Edit this on Wikidata
Blodeuodd12 g Edit this on Wikidata
Swyddesgob Edit this on Wikidata
Adnabyddus amDecretum Gratiani Edit this on Wikidata

Cyfreithegydd o'r Eidal a arloesodd y gyfraith ganonaidd oedd Gratianus (blodeuai yng nghanol yr 12g).

Nid oes tystiolaeth gadarn am fanylion bywyd Gratianus.[1][2] Yn ôl traddodiad, cafodd ei eni yn nhref Chiusi, Tysgani, tua 1090. Ymunodd ag urdd fynachiad y Camaldoliaid ac addysgodd ym Mynachlog y Saint Felix a Nabor yn Bologna. Dywed ysgolheigion canoloesol iddo fod yn frawd i Petrus Lombardus, awdur Liber Sententiarum, a Petrus Comestor, awdur Historia Scholastica, mewn ymgais i lunio perthynas ddychmygol i gysylltu sefydlwyr y gyfaith ganonaidd, diwinyddiaeth ysgolaidd, ac hanesyddiaeth Feiblaidd.[3] Mae awduron eraill yn honni taw un o Urdd Sant Bened oedd Gratian.[4] Tybir iddo farw rhywbryd yn y 1150au.

Cyflawnodd y Concordia discordantium canonum, a elwir yn aml yn Decretum Gratiani, tua 1140. Casgliad ydyw o ryw 4000 o destunau ar bynciau cyfreithiol a chyda sylwebaeth ac esboniadau'r awdur, ac yn dilyn hynt y gyfraith Gristnogol o Ganonau'r Apostolion, testun apocryffaidd o'r 4g, hyd at ddeddfau eglwysig y Pab Innocentius II ac Ail Gyngor y Lateran yn oes Gratianus. Ymgais ydyw i gysoni'r anghydfodau mewn gweithiau canonaidd drwy gyfuniad o ddulliau'r cyfreithegydd, ar batrwm doethuriaid y gyfraith sifil yn Bologna, ac ysgolaeth diwinyddion Ffrengig gan gynnwys Lombardus. Ni chafodd y Decretum ei gydnabod yn ffurfiol gan yr Eglwys Babyddol, fodd bynnag cafodd ei defnyddio mewn llysoedd eglwysig ac ysgolion y gyfraith. Roedd yn gyflwyniad hollbwysig i gorff y cyfreithiau canonaidd hyd at 1917.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. John T. Noonan, "Gratian Slept Here: The Changing Identity of the Father of the Systematic Study of Canon Law", Traditio 35 (1979), tt. 145–172.
  2. Kenneth Pennington, "The Biography of Gratian, the Father of Canon Law", 59 Villanova Law Review 679 (2014).
  3. Van Hove, Alphonse. "Johannes Gratian" yn The Catholic Encyclopedia, cyf. 6 (Efrog Newydd: Robert Appleton, 1909).
  4. (Saesneg) Gratian (Italian scholar). Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 13 Medi 2018.