Elton John
Elton John | |
---|---|
Ffugenw | Elton John |
Ganwyd | Reginald Kenneth Dwight 25 Mawrth 1947 Pinner |
Label recordio | Universal Records, Island Records, Philips Records, DJM Records, Uni, Geffen Records, Paramount Records, Mercury Records, MCA Records, Def Jam Recordings, Congress, The Rocket Record Company, IL, Chrysalis Records, A&M Records, Regal Zonophone, Stateside Records, Cube Records |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | canwr, cyfansoddwr, actor ffilm, allweddellwr, pianydd, artist recordio, actifydd HIV/AIDS, cerddor, awdur geiriau |
Adnabyddus am | Billy Elliot the Musical, Goodbye Yellow Brick Road, Your Song, Tiny Dancer |
Arddull | cerddoriaeth roc, roc poblogaidd, roc glam, roc meddal, rhythm a blŵs |
Math o lais | tenor |
Tad | Stanley Dwight |
Mam | Sheila Eileen Farebrother |
Priod | Renate Blauel, David Furnish |
Gwobr/au | CBE, Gwobr Grammy Legend, MusiCares Person of the Year, Rock and Roll Hall of Fame, Silver Clef Award, Anrhydedd y Kennedy Center, 'Disney Legends', gwobr Johnny Mercer, Cydymaith Anrhydeddus, Gwobr yr Academi am y Gân Wreiddiol Orau, Golden Globe Award for Best Original Song, Crystal Award, seren ar Rodfa Enwogion Hollywood, Chevalier de la Légion d'Honneur, Gwobr Grammy, Tony Award for Best Original Score, Marchog Faglor, Officier des Arts et des Lettres, Medal y Dyniaethau Cenedlaethol, Drama League Award, Golden Globes, Gwobrau'r Academi, Gwobr Gershwin |
Gwefan | https://www.eltonjohn.com |
Mae Syr Elton Hercules John CH CBE (ganwyd Reginald Kenneth Dwight; 25 Mawrth 1947) [1] yn ganwr, cyfansoddwr caneuon, pianydd a chyfansoddwr cerddoriaeth o Loegr.
Cefndir
[golygu | golygu cod]Ganwyd Dwight yn yn Pinner, Middlesex ( Bwrdeistref Harrow yn Llundain heddiw), yn blentyn hynaf Stanley Dwight (1925–1991) ac unig blentyn Sheila Eileen (née Harris; 1925–2017),[2][3] ac fe'i magwyd mewn tŷ cyngor yn Pinner gan ei nain a thaid mamol. Addysgwyd ef yn Ysgol Iau Pinner Wood, Ysgol Reddiford ac Ysgol Ramadeg Sirol Pinner. Ymadawodd a'r ysgol yn 17 mlwydd oed ychydig cyn ei arholiadau Safon Uwch i ddilyn gyrfa mewn cerddoriaeth.[4] Dechreuodd John chwarae piano ei nain yn fachgen ifanc,[5] ac yn 7mlwydd oed dechreuodd derbyn wersi piano ffurfiol. Dangosodd ddawn gerddorol yn yr ysgol, gan gynnwys y gallu i gyfansoddi alawon ac enillodd rywfaint o enwogrwydd trwy chwarae fel Jerry Lee Lewis mewn digwyddiadau ysgol. Yn 11 oed, enillodd ysgoloriaeth iau i'r Academi Gerdd Frenhinol .
Gyrfa
[golygu | golygu cod]Ym 1962 ffurfiodd Bluesology, band R&B y bu'n chwarae gyda nhw hyd 1967. Gan gydweithio gyda’r telynegwr Bernie Taupin er 1967 [6] ar fwy na 30 albwm, mae John wedi gwerthu dros 300 miliwn o recordiau, gan ei wneud yn un o'r artistiaid cerdd sydd wedi gwerthu orau erioed.[7][8] Mae mwy na hanner cant o'i recordiau wedi cyraedd Siart Senglau'r DU a'r US Billboard Hot 100, gan gynnwys saith rhif un yn y DU a naw yn yr UD, yn ogystal â saith albwm rhif un yn olynol yn yr UD.[9][10] Gwerthodd ei sengl deyrnged "Candle in the Wind 1997 ", a ail-ysgrifennwyd mewn teyrnged i Diana, Tywysoges Cymru, dros 33 miliwn o gopïau ledled y byd. Dyma'r sengl sydd wedi gwerthu orau yn hanes siartiau senglau'r DU a'r UD.[11]. Mae John hefyd wedi cael llwyddiant mewn ffilmiau cerddorol a theatr, gan gyfansoddi ar gyfer The Lion King a'i addasiad llwyfan, Aida a Billy Elliot the Musical .
Roedd John yn berchen ar Watford F.C. rhwng 1976 a 1987 a rhwng 1997 a 2002. Mae'n llywydd er anrhydedd am oes y clwb.
Anrhydeddau
[golygu | golygu cod]Mae John wedi derbyn pum Gwobr Grammy, pum Gwobr Brit ; gan gynnwys un ar gyfer Cyfraniad Eithriadol i Gerddoriaeth; dwy Wobr Academi, dwy Golden Globe, Gwobr Tony, Gwobr Disney Legends, ac Anrhydedd Canolfan Kennedy. Cafodd ei urddo i Oriel Anfarwolion y Cyfansoddwyr Caneuon ym 1992 a Neuadd Enwogion Roc a Rôl ym 1994, ac mae'n gymrawd Academi Awduron, Cyfansoddwyr ac Awduron Prydain . Cafodd ei urddo'n farchog gan y Frenhines Elizabeth II am "wasanaethau i gerddoriaeth a gwasanaethau elusennol" ym 1998.[12]
Bywyd personol
[golygu | golygu cod]Rhywioldeb
[golygu | golygu cod]Ar ddiwedd y 1960au, dyweddïwyd John i fod yn briod â'i gariad cyntaf, yr ysgrifennydd Linda Woodrow, a grybwyllir yn y gân " Someone Saved My Life Tonight ".[13][14] Rhoddodd Woodrow gymorth ariannol i John a Taupin ar y pryd. Daeth John â'r berthynas i ben bythefnos cyn eu priodas arfaethedig.[15]
Ym 1970, yn unol ar ôl ei sioeau cyntaf yn yr UD yn Los Angeles, ei berthynas hoyw gyntaf â John Reid, rheolwr label Tamla Motown ar gyfer y DU, a ddaeth yn rheolwr John yn ddiweddarach. Daeth y berthynas i ben bum mlynedd yn ddiweddarach, er i Reid aros yn rheolwr arno tan 1998.[16]
Priodas gyntaf
[golygu | golygu cod]Priododd John y peiriannydd recordio Almaenig Renate Blauel ar 14 Chwefror 1984, mewn seremoni briodas yn Darling Point, New South Wales, Awstralia.[17] Daeth eu priodas i ben trwy ysgariad ym 1988.[18]
Ail briodas
[golygu | golygu cod]Ym 1993, cychwynnodd John berthynas â David Furnish, gwneuthurwr ffilmiau o Toronto. Ar 21 Rhagfyr 2005 (y diwrnod y daeth y Ddeddf Partneriaeth Sifil i rym), roedd John a Furnish ymhlith y cyplau cyntaf i ffurfio partneriaeth sifil yn y Deyrnas Unedig, a gynhaliwyd yn Neuadd y Ddinas Windsor.[19] Ar ôl i briodas hoyw ddod yn gyfreithiol yn y Deyrnas Unedig ym mis Mawrth 2014, priododd John a Furnish yn Windsor, Berkshire, ar 21 Rhagfyr 2014, nawfed pen-blwydd eu partneriaeth sifil.[20] Mae ganddynt ddau fab.[21]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Elton John | Biography & History". AllMusic. Cyrchwyd 2020-12-06.
- ↑ "Family detective: Elton John". The Telegraph. Cyrchwyd 2020-12-06.
- ↑ "Sir Elton John 'in shock' after his mother dies aged 92". BBC News. 6 Rhagfyr 2020. Cyrchwyd 12 November 2018.
- ↑ Elizabeth Rosenthal, His Song: The Musical Journey of Elton John, Billboard Books, 2001.
- ↑ "Tear-Jerker British Ad Re-Creates Elton John's Christmas Past". NPR.org. Cyrchwyd 2020-12-06.
- ↑ Greene, Andy; Greene, Andy (2020-11-02). "Bernie Taupin on His 53-Year Saga With Elton John and Hopes for the Future". Rolling Stone. Cyrchwyd 2020-12-06.
- ↑ America, Good Morning. "Elton John on why he's retiring from touring: 'I'd rather be with my children'". Good Morning America. Cyrchwyd 2020-12-06.
- ↑ Ryan, Jim. "Elton John Says Goodbye Yellow Brick Road During Chicago Stop Of Farewell Tour". Forbes. Cyrchwyd 2020-12-06.
- ↑ "Elton John | full Official Chart History | Official Charts Company". www.officialcharts.com. Cyrchwyd 2020-12-06.
- ↑ "Elton John on Being the Top Male Solo Artist of All Time and Why Billboard Is Still His 'Bible'". Billboard. Cyrchwyd 2020-12-06.
- ↑ "RIAA - Recording Industry Association of America - October 06, 2014". web.archive.org. 2014-10-06. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-10-06. Cyrchwyd 2020-12-06.CS1 maint: BOT: original-url status unknown (link)
- ↑ "About: All About Elton: Bio". Elton John. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 15 July 2010. Cyrchwyd 6 Rhagfyr 2020.
- ↑ Jahr, Cliff (7 October 1976). "Elton John: It's Lonely at the Top". Rolling Stone. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 24 July 2007. Cyrchwyd 25 February 2009.
- ↑ Paul Myers (6 September 2007). It Ain't Easy: Long John Baldry and the Birth of the British Blues, page 133. Greystone Books, 2007. ISBN 978-1-55365-200-7. Cyrchwyd 2 February 2010.
- ↑ "Elton John helps ex-fiancée, 50 years after jilting her". Raidió Teilifís Éireann. 2020-06-06.
- ↑ Storey, Kate (30 May 2019). "Elton John and John Reid's Relationship Imploded After What We See in 'Rocketman'". Esquire.
- ↑ Savage, Mark (25 August 2020). "Elton John's ex-wife 'attempted suicide' during their honeymoon". BBC. Cyrchwyd 26 August 2020.
- ↑ "Rocketman: Elton John's Forgotten 1984 Wedding to Renate Blauel". Daily Australian. Cyrchwyd 1 June 2020.
- ↑ John, Elton (8 October 2012). "The historic fight for equality must go on. Let's get on and legalise same-sex marriage". The Independent. London. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-09-26. Cyrchwyd 2020-12-06.
- ↑ "Sir Elton John and David Furnish marry". BBC News. 21 December 2014. Cyrchwyd 6 Rhagfyr 2020.
- ↑ "There are no words to describe how much we love these boys': Elton John on his adorable sons". Hello magazine. 17 Rhagfyr 2017.