[go: up one dir, main page]

Neidio i'r cynnwys

Eira Wen

Oddi ar Wicipedia
Y corachod yn darganfod Eira Wen ynghwsg

Chwedl dylwyth teg Almaenig o'r 19g sydd bellach yn adnabyddus trwy'r byd Gorllewinol yw "Eira Wen". Cyhoeddwyd hi gan y Brodyr Grimm yn 1812 yn argraffiad cyntaf eu casgliad o chwedlau tylwyth teg. Ei henw Almaeneg oedd Sneewittchen (Schneewittchen mewn orgraff fodern) a'i rhif oedd Chwedl 53. Roedd yr enw Sneewittchen yn Isel Almaeneg ac yn y fersiwn gyntaf cafodd ei gyfieithu i Schneeweißchen. Cwblhaodd y brodyr eu hadolygiad cyntaf o'r stori yn 1854.[1][2]

Mae'r chwedl yn cynnwys y drych hud, yr afal gwenwynig, yr arch wydr, a chymeriadau'r frenhines ddieflig a'r Saith Corrach. Rhoddwyd enwau i bob un o'r saith corrach am y tro cyntaf yn 1912 fel rhan o'r ddrama Broadway Snow White and the Seven Dwarfs ac yna rhoddwyd enwau gwahanol iddyn nhw yn ffilm Walt Disney Snow White and the Seven Dwarfs (1937). Ni ddylid cymysgu stori Grimm, sydd fel arfer yn cael ei chyfeirio ati fel "Eira Wen",[3] gyda stori "Eira Wen a Rhosyn Coch" ("Schneeweißchen und Rosenrot" mewn Almaeneg), sef chwedl dylwyth teg arall a gasglwyd gan y brodyr Grimm.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. Jacob Grimm & Wilhelm Grimm: Kinder- und Hausmärchen; Band 1, 7. Ausgabe (children's and households fairy tales, volume 1, 7th edition). Dietrich, Göttingen 1857, page 264–273.
  2. Jacob Grimm; Wilhelm Grimm (2014-10-19). "The Original Folk and Fairy Tales of the Brothers Grimm: The Complete First ..." Books.google.co.in. Cyrchwyd 2016-04-05.
  3. Bartels, Karlheinz (2012). Schneewittchen – Zur Fabulologie des Spessarts. Geschichts- und Museumsverein Lohr a. Main, Lohr a. Main. pp. 56–59. ISBN 978-3-934128-40-8.