Edwin Lutyens
Edwin Lutyens | |
---|---|
Ganwyd | 29 Mawrth 1869 Llundain |
Bu farw | 1 Ionawr 1944 Llundain |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig |
Galwedigaeth | cynlluniwr trefol, pensaer, artist |
Adnabyddus am | Embassy of the United Kingdom, Washington, D.C. |
Tad | Charles Augustus Henry Lutyens |
Mam | Mary Theresa Gallwey |
Priod | Emily Lutyens |
Plant | Mary Lutyens, Elisabeth Lutyens, Robert Lutyens, Barbara Lutyens, Ursula Lutyens |
Gwobr/au | Medal Aur Frenhinol, Cymrawd Sefydliad Brenhinol Penseiri Prydain, Urdd Teilyngdod, Academydd Brenhinol, Marchog Faglor |
Pensaer o Sais oedd Syr Edwin Landseer Lutyens (29 Mawrth 1869 – 1 Ionawr 1944). Roedd yn ffigwr blaenllaw yn y Mudiad Celf a Chrefft ac yn Arlywydd Academi Frenhinol y Celfyddydau o 1938 hyd ei farwolaeth. Roedd ganddo ddealltwriaeth gref o draddodiadau adeiladu gwerinol yn ogystal â phensaernïaeth glasurol. Ym marn llawer o feirniaid mae ei weithiau yn crynhoi'r feddylfryd Edwardaidd, Seisnig i'r dim, ac mae'r plastai cynnar a gynlluniwyd ganddo'n cyfuno rhamantiaeth â chlasuriaeth mawreddog. Yn dilyn chwalu'r byd hwn yn y Rhyfel Byd Cyntaf cynlluniodd Lutyens rai o gofadeiladau mwyaf cofiadwy ei oes, yn enwedig y Senotaff yn Llundain a Chofeb Thiepval i Golledigion y Somme.
Ymhlith ei gynlluniau mwyaf uchelgeisiol roedd prifddinas newydd ar gyfer India, Delhi Newydd, a chadeirlan Gatholig enfawr yn Lerpwl; dim ond crypt yr adeilad hwn a adeiladwyd i'w gynlluniau. Canmolwyd Lutyens fel "pensaer gorau [Prydain] ers Wren"[1] ac ef oedd y dylanwad mwyaf ar bensaernïaeth clasurol yng ngwledydd Prydain yn yr 20g cynnar, ond ystyrir hefyd ei fod wedi bod yn ddylanwad ceidwadol iawn ar adeg pan oedd pensaernïaeth fodern yn datblygu ar y cyfandir.
Nododd Lutyens fod Capel y Rug, ger Corwen yn Sir Ddinbych, wedi dylanwadu ar ei gynlluniau ar gyfer Tŷ'r Llywodraethwr (a elwir bellach yn Rashtrapati Bhavan) yn Delhi Newydd.[2]
Oriel
[golygu | golygu cod]-
Castle Drogo
-
Rashtrapati Bhavan (Tŷ'r Llywodraethwr gynt), Delhi Newydd
-
Porth India, Delhi Newydd
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ (Saesneg) Stamp, Gavin. Lutyens, Edwin. Oxford Art Online. Gwasg Prifysgol Rhydychen. Adalwyd ar 11 Tachwedd 2014.
- ↑ "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-04-10. Cyrchwyd 2018-03-27.