Edmwnd Tudur
Edmwnd Tudur | |
---|---|
Ganwyd | c. 1430 Much Hadham Hall |
Bu farw | 3 Tachwedd 1456, 1 Tachwedd 1456 Caerfyrddin |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | pendefig |
Swydd | aelod o Dŷ'r Arglwyddi |
Tad | Owain Tudur |
Mam | Catrin o Valois |
Priod | Margaret Beaufort |
Plant | Harri VII |
Llinach | House of Valois, Tuduriaid |
Roedd Edmwnd Tudur (Edmund Tudor) (11 Mehefin 1431 – 3 Tachwedd 1456) yn un o Duduriaid Penmynydd, yn dad i Harri VII, brenin Lloegr ac yn fab i Catrin o Valois ac Owain Tudur.
Roedd Edmwnd yn hanner brawd i Harri VI, brenin Lloegr. Fe'i magwyd gan Katherine de la Pole a chymerodd Harri ddiddordeb ym magwraeth Edmwnd, gan roi teitl a thiroedd iddo wedi iddo ddod i oed. Gwnaed Edmund a'i frawd, Jasper, yn gynghorwyr i'r Brenin, gan mai hwy oedd ei berthnasau gwaed agosaf. Ar 23 Tachwedd 1452 fe'i gwnaed yn Iarll Richmond a'i frawd Siasbar yn Iarll Penfro. Yn 1455 priododd Margaret Beaufort pan oedd hi'n ddeuddeg oed, a phan oedd yn 14 oed ganed un mab iddynt: Harri Tudur (Harri VII yn ddiweddarach), dri mis wedi marwolaeth Edmwnd.
Ganwyd Edmwnd Tudur ym mhlasty Much Hadham, Swydd Hertford. Yn 1436, ymneilltuodd ei fam i Abaty Bermondsey ble y bu farw yn 1437. Magwyd ef a'i frawd Jasper, felly, gan Katherine de la Pole, Prif Leian Barking, a buont gyda hi tan 1442 pan danfonwyd hwy i lys Harri VI, brenin Lloegr i'w haddysgu.[1] Cafodd Edmwnd aros yn y Llys[1]. Ar 30 Ionawr 1452 cafodd ei wysio i'r Llywodraeth fel Iarll Richmond ac yna fel Uwch Iarll ar 6 Mawrth. Yr un pryd gwnaed Jasper yn Iarll Penfro. Cyhoeddodd y Llywodaeth ef yn fab cyfreithlon yn 1453 a rhoddwyd iddo gryn gyfoeth gan y brenin.
Genedigaeth: pwy oedd ei dad?
[golygu | golygu cod]Ar ôl marwolaeth Harri V brenin Lloegr, cafodd y frenhines waddol Catherine o Valois berthynas ym 1427 ag Edmund Beaufort. Arweiniodd hyn at statud seneddol i reoleiddio ailbriodi breninesau Lloegr. Yna priododd Catherine ag Owen Tudur yn gyfrinachol er mwyn osgoi torri deddfau 1227/8 a daeth ei pherthynas â Beaufort i ben, er ei bod yn bosibl mai mab biolegol oedd Edmund Tudur. Ni wyddys union ddyddiadau geni Edmund Tudur a phriodas Catherine ac Owen.[2][3]
Mae rhai haneswyr wedi awgrymu i Edmund Tudor gael ei enwi ar ôl Edmund Beaufort a dywed yr hanesydd John Ashton-Hill fod yr arfbais a ddefnyddiwyd yn ddiweddarach gan Edmund a Jasper Tudur mewn gwirionedd yn deillio o un Edmund Beaufort.[4]
Marwolaeth
[golygu | golygu cod]Yn eironig, yng Nghymru y bu farw Edmwnd, wedi iddo gael ei ddanfon gan y brenin i roi trefn ar Dde Cymru, gan nad oeddent yn derbyn awdurdod Dug Efrog a'i gynrychiolydd sef William Herbert, Iarll 1af Penfro (1423–1469) yng Nghymru, i arglwyddiaethu drostynt. Dyma ddechrau'r cyfnod a elwir yn Rhyfel y Rhosynnau, gyda'r brenin, Siasbar, Edmwnd - a'u tad Owain Tudur yn ochri gyda Lancastriaid a'r Dug Efrog ac eraill gyda'r Iorciaid. Fe'i carcharwyd am ychydig gan Herbert yng Nghastell Caerfyrddin, lle'r aeth yn wael; ni wyddus yn union beth a achosodd ei farwolaeth, ac mae'n bosibl mai cael ei wenwyno a wnaeth.
Canodd y beirdd am Edmwnd: 'yn frawd i'r brenin, nai i'r Dauphin a mab Owain', bu farw yn ddim ond 26 oed. Llai na hanner hynny oedd oedran ei ail-wraig Margaret o Anjou: deuddeg. Ac ar ddiwrnod ei farwolaeth, ni wyddai Edmwnd fod yn ei chroth blentyn - Harri. Yn dilyn marwolaeth Edmwnd cymerodd Siasbar ofal ohono a'i ystâd enfawr. Yn dilyn buddugoliaeth yr Iorciaid ym Mrwydr Mortimer's Cross gorseddwyd Edward IV yn frenin a dihangodd Sisbar, Harri a'i wraig Margaret i'r Alban, Ffrainc, Llydaw a gwledydd eraill gan geisio annog ailfeddianu coron Lloegr i Edward.
Ar 3 Tachwedd 1456 bu farw Edmwnd;[5] ar 28 Ionawr 1457, 4 mis yn ddiweddarach, ganwyd Harri yng Nghastell Penfro, gan adael ddeufis yn ddiweddarach yn ôl i'w cartref yn Llundain.
Llinach
[golygu | golygu cod]Yn ogystal â Siasbar roedd gan Edmwnd frawd o'r un enw a'i dad (Owain) a fu'n fynach, a chwaer o'r enw Marged a fu farw'n ifanc. Roedd y Tuduriaid yn deulu uchelwrol iawn, ond teulu a gollasant eu tiroedd oherwydd iddynt fod yn driw i Glyn Dwr yn ystod ei wrthryfel. Edrychwyd ar Owain gan y Saeson, felly, fel rebel eilradd nad oedd hawl ganddo gario arfau na dal swydd. Mae ei garwriaeth gyda Chatherine felly'n dipyn o ryfeddod i'r hanesydd.
Ednyfed Fychan m. 1246 | |||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Goronwy ab Ednyfed m. 1268 | |||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Tudur Hen (hefyd Tudur ap Goronwy) m. 1311 | |||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Goronwy ap Tudur Hen m. 1331 | |||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Elen ferch Tomos (mam Owain Glyn Dŵr) | Marged ferch Tomos | Tudur ap Goronwy d. 1367 | |||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Maredudd ap Tudur m.1406 | Rhys ap Tudur d. 1409 | Gwilym ap Tudur m. 1413 | |||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Owain Tudur (m.1461) | |||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Edmwnd Tudur d. 1456 | Siasbar Tudur m.1495 | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Harri VII m. 1509 | |||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 Edmund Tudor, Duke of Richmond, father of Henry VII, paternal grandfather of Arthur, Margaret, Henry, and Mary Tudor | Flickr – Condivisione di foto!
- ↑ "Beaufort, Edmund, first duke of Somerset". Oxford Dictionary of National Biography. 23 September 2004. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-02-07. Cyrchwyd 2023-12-01.CS1 maint: BOT: original-url status unknown (link)
- ↑ Harriss, G. L. (1988). Cardinal Beaufort: A Study of Lancastrian Ascendancy and Decline (yn Saesneg). Clarendon Press. t. 178. ISBN 978-0-19-820135-9.
- ↑ Ashdown-Hill, John (2013-07-01). Royal Marriage Secrets: Consorts and Concubines, Bigamists and Bastards (yn Saesneg). The History Press. tt. 48–56. ISBN 978-0-7524-9420-3.
- ↑ Miranda Jane Aldhouse-Green; Ralph Alan Griffiths; Raymond Howell; Tony Hopkins (2004). The Gwent County History: The age of the Marcher Lords, c.1070-1536 (yn Saesneg). University of Wales Press. t. 265. ISBN 978-0-7083-2072-3.