Eburones
Enghraifft o'r canlynol | grwp ethnig hanesyddol |
---|---|
Rhan o | Germani cisrhenani |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Llwyth Belgaidd yn byw yng ngogledd-ddwyrain Gâl oedd yr Eburones (Groeg: Ἐβούρωνες, Strabo). Yn ôl Iŵl Cesar, roeddynt yn bobl o dras Almaenig oedd a'u prif diriogaethau rhwng Afon Rhein ac Afon Maas, i'r dwyrain o'r Menapii. Yn ddiweddarach daeth yr ardal yn rhan o dalaith Rufeinig Germania Inferior.
Yn 54 CC, gadawodd Iŵl Cesat leng a phum cohort i aeafu yn nhiriogaeth yr Eburones, dan y legad Quintus Titurius Sabinus a Lucius Aurunculeius Cotta. Ymosododd yr Eburones arnynt, dan eu dau frenin Ambiorix a Cativolcus, gyda chymorth eu cyngheiriaid, y Nervii. Persiawiwyd y Rhufeiniaid i adael eu gwersyll, ar yr addewid y byddent yn cael mynd yn rhydd i ymuno â byddin Cesar, ond wedi iddynt ddechrau ar eu taith, ymosododd yr Eburones arnynt a lladd bron y cyfan, tua 6,000 o filwyr. Methodd ymosodiad ar wersyll Rhufeinig arall, dan Quintus Tullius Cicero, brawd Cicero.
Y flwyddyn wedyn, ymososodd Cesar ar yr Eburones. Lladdodd Cativolcus ei hun, a ffôdd Ambiorix. Rhoddodd Cesar wahoddiad i'r bobloedd o'u cylch ddod i anrheithio tiroedd yr Eburones.