Diwylliant Cymru
Diwylliant Cymru |
---|
Traddodiad |
Llenyddiaeth |
Cerddoriaeth |
Bwyd |
Dathliadau a gwyliau |
Chwaraeon |
Crefydd |
Hanes |
WiciBrosiect Cymru |
Dylanwadwyd ar ddiwylliant Cymru gan lu o bethau: cenedl, iaith, crefydd, a daearyddiaeth. Diwylliant arbennig y Cymry Cymraeg yw diwylliant Cymraeg. Mae'n rhan hanfodol o ddiwylliant Cymru ond hefyd yn rhan o hanes Y Wladfa ym Mhatagonia, a chymunedau eraill yn y byd sy'n Gymraeg eu hiaith.
Y diwylliant gwerin a thraddodiadol
[golygu | golygu cod]Nodir diwylliant traddodiadol Cymru gan etifeddiaeth y Celtiaid wedi ei chyfuno â Christnogaeth, hen chwedlau a straeon sydd wedi ymgynefino â'r llên gwerin a'r traddodiad llenyddol, a bywyd y werin yn y cefn gwlad.
Mytholeg a'r hen grefydd
[golygu | golygu cod]- Prif: Mytholeg Gymreig a Eglwys Geltaidd
Y deunydd mytholegol y gwelir ei olion yn llenyddiaeth gynnar a chanoloesol Cymru a hefyd, i ryw raddau, yn ei chwedlau gwerin yw mytholeg Gymreig. Mae'n rhan o draddodiad hynafol Cymru ond mae'n perthyn hefyd i fyd ehangach mytholeg Geltaidd a mytholeg ryngwladol. Ceir y deunydd hwn mewn sawl ffynhonnell, yn gerddi cynnar (yn Llyfr Taliesin, er enghraifft), yn chwedlau Cymraeg cynhenid yr Oesoedd Canol (yn enwedig yn Culhwch ac Olwen a Pedair Cainc y Mabinogi), mewn cyfeiriadau yng ngwaith Beirdd y Tywysogion a Beirdd yr Uchelwyr, yn y casgliad o ddeunydd mnemonig a elwir Trioedd Ynys Prydain, ac mewn chwedlau gwerin, diweddar yn eu ffurf bresennol ond sydd o darddiad hynafol.
Llên gwerin
[golygu | golygu cod]- Prif: Llên gwerin Cymru
Mae llên gwerin Cymru yn enw cyfleus am y corff amrywiol o chwedlau, traddodiadau, coelion ac arferion poblogaidd sy'n rhan bwysig o etifeddiaeth ddiwylliannol y wlad. Mae Cymru yn un o'r gwledydd Celtaidd a cheir elfennau yn ei llên gwerin sy'n gyffredin i'r gwledydd hynny. Ceir yn ogystal nifer o elfennau a elwir yn "fotiffau llên gwerin rhyngwladol" ac sydd i'w gweld mewn sawl diwylliant arall. Yn ogystal wrth gwrs mae digon o nodweddion cynhenid Gymreig yn y gwaddol diwylliannol a elwir heddiw yn llên gwerin Cymru.
Gwyliau
[golygu | golygu cod]Nawddsant Cymru ydy Dewi Sant. Dethlir Dydd Gŵyl Dewi ar 1 Mawrth, a chred rhai pobl y dylai fod yn wyliau cyhoeddus yng Nghymru.[1] Mae'r 16 Medi (y diwrnod pan ddechreuodd gwrthryfel Owain Glyndŵr) a'r 11 Rhagfyr (marwolaeth Llywelyn ein Llyw Olaf) wedi cael eu hawgrymu fel diwrnodau posib eraill ar gyfer gwyliau cyhoeddus.
Y gwyliau tymhorol traddodiadol yng Nghymru yw:
- 1) Calan Gaeaf (gŵyl tebyg i Samhain ar y diwrnod cyntaf o'r Gaeaf)
- 2) Gŵyl Fair y Canhwyllau
- 3) Calan Mai
- 4) Calan Awst (sy'n debyg i Lugnasad). Yn ogystal â hyn, mae pob llan yn dathlu Gŵyl Mabsant i gofio am eu seintiau lleol.
- Yn ogystal â hyn, mae Calennig yn ddathliad Cymreig o'r flwyddyn newydd.
Traddodiadau ac arferion lleol
[golygu | golygu cod]Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu at yr adran hon.
Y celfyddydau
[golygu | golygu cod]Cerddoriaeth
[golygu | golygu cod]- Prif: Cerddoriaeth Cymru
Mae gan gerddoriaeth Cymru hanes hir, ond ychydig iawn o wybodaeth fanwl sydd gennym cyn y 18g pan ddechreuodd hynafiaethwyr ymddiddori yn y pwnc. Cyfeirir at Gymru'n aml fel "Gwlad y Gân", yn ystrydebol braidd.
Llenyddiaeth
[golygu | golygu cod]Ac eithrio llenyddiaeth glasurol, llenyddiaeth Gymraeg yw'r hynaf yn Ewrop. Mae gan y Gymraeg draddodiad cyfoethog o lenyddiaeth sy'n dyddio o'r 6g hyd heddiw. Oherwydd eu bod yn ysgrifennu mewn iaith â mwy o bobl yn ei deall, mae ysgrifenwyr llenyddiaeth Saesneg Cymru yn aml wedi llwyddo i ddenu cynulleidfaoedd llawer mwy na'u cyd-wladwyr sy'n ysgrifennu yn yr iaith Gymraeg yn unig. Dwy enghraifft adnabyddus o hyn yw'r beirdd byd-enwog Dylan Thomas ac R. S. Thomas.
Celf
[golygu | golygu cod]- Prif: Celf Cymru
Er i lenyddiaeth a cherddoriaeth y wlad ddangos sawl traddodiad unigryw, mae celf Cymru i raddau helaeth wedi dibynnu ar yr un ffurfiau ac arddulliau a geir yng ngweldydd eraill Prydain. Sonir yn aml am gelf Cymru, neu gelf yng Nghymru, i gynnwys y gweithiau niferus a wnaed gan arlunwyr estron yn y wlad, yn enwedig tirluniau.
Dawns
[golygu | golygu cod]Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu at yr adran hon.
Theatr
[golygu | golygu cod]Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu at yr adran hon.
Diwylliant poblogaidd
[golygu | golygu cod]Cerddoriaeth boblogaidd
[golygu | golygu cod]Mae Cymru'n enwog am eu cerddorion cyfoes fel Manic Street Preachers, Catatonia, Tom Jones, a Charlotte Church.
Ffilm
[golygu | golygu cod]- Prif: Ffilm yng Nghymru
Mae ffilm yng Nghymru, ai mewn Cymraeg neu Saesneg, wedi bod yn symbol o ddiwylliant y wlad ers blynyddoedd, ac wedi hyrwyddo enw Cymru ar draws y byd. Mae nifer o actorion a chyfarwyddwyr enwog wedi dod o Gymru, yn cynnwys Richard Burton a Peter Greenaway.
Teledu
[golygu | golygu cod]- Prif: Teledu yng Nghymru
Y prif ddarlledwyr teledu yng Nghymru yw BBC Cymru, S4C, ac ITV Wales. Yn ddiweddar mae S4C wedi cynhyrchu sawl cyfres ddrama Gymraeg o fri, gan gynnwys Y Gwyll, Byw Celwydd, a 35 Diwrnod.
Chwaraeon
[golygu | golygu cod]- Prif: Chwaraeon yng Nghymru
Dywedir yn aml taw rygbi'r undeb yw mabolgamp genedlaethol Cymru, er mae pêl-droed yn denu mwy o wylwyr i'r maes. Bu'r Cymry hefyd yn dangos eu medr yn snwcer, dartiau, golff, paffio, ac athletau. Ymhlith yr hen chwaraeon bu cnapan, bando, pêl-droed traddodiadol, a chwarae pêl.
Coginiaeth
[golygu | golygu cod]- Prif: Coginiaeth Cymru
Mae bwydydd Cymreig yn cynnwys cawl, teisen gri, bara lawr, bara brith, selsig Morgannwg, a Welsh rarebit.
Symbolau cenedlaethol
[golygu | golygu cod]Mae'n debyg taw'r Ddraig Goch, sy'n ymddangos ar y faner genedlaethol, yw symbol amlycaf Cymru. Ceir hefyd y genhinen Bedr a'r genhinen. Hen Wlad fy Nhadau yw'r anthem genedlaethol.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 'St David's Day holiday would promote Wales' WalesOnline. 27-02-2007. Adalwyd ar 10-07-2010