David R. Edwards
David R. Edwards | |
---|---|
Ganwyd | David Rupert Edwards 3 Medi 1964 Aberteifi |
Bu farw | 20 Mehefin 2021 Caerfyrddin |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | cerddor, canwr |
Canwr, cerddor a bardd oedd David R. Edwards (3 Medi 1964 – 20 Mehefin 2021).[1][2][3] Roedd yn cael ei adnabod gan sawl enw yn cynnwys 'Dave Datblygu', 'Dave Edwards' a 'D.R.E.'. Daeth i'r amlwg fel arweinydd y grŵp ôl-pync, arbrofol, Datblygu. Yn ôl John Peel, roedd ei gyfansoddiadau gwreiddiol a chlyfar yn ddigon o reswm ynddynt eu hunain i ddysgu'r iaith Gymraeg.[4]
Bywgraffiad
[golygu | golygu cod]Ganwyd David Rupert Edwards yn unig fab i Elizabeth Maud Edwards (Betty) a Daniel Mervyn Edwards ac fe'i magwyd yn Aberteifi. Mynychodd Ysgol Uwchradd Aberteifi a disgrifiodd ei addysg fel rhywbeth diflas a di-bwrpas. Tra yn yr ysgol fe ffurfiodd y grŵp Datblygu gyda'i ffrind T. Wyn Davies yn 1982. Ymunodd Patricia Morgan a'r grŵp yn 1984. Gyda'i ddawn o ysgrifennu geiriau caneuon bachog a heriol, fe'i ddisgrifiwyd gan lawer fel bardd.[3] Er iddo ysgrifennu cyfrol o farddoniaeth hefyd, nid oedd yn gweld ei hun fel bardd.[5]
Yn ogystal â Datblygu, gweithiodd David gyda Tŷ Gwydr a Llwybr Llaethog ar L.L. v T.G. MC DRE yn 1992. Tua'r un adeg daeth yn athro yn ysgol uwchradd Llanfair Caereinion ond dywedodd iddo gael ei ddi-swyddo oherwydd ei smygu ac yfed. Daeth cyfnod cyntaf y grŵp i ben ar ôl rhyddhau eu sengl Putsch yn 1995, oherwydd salwch David. Ym mis Medi 2004 ail-ryddhawyd Libertino gan label Ankstmusik mewn bocs-driphlyg ynghyd a'r ddwy albwm cyntaf, Wyau a Pyst. Cyflwynodd hwn gerddoriaeth Dave i genhedlaeth newydd.[6]
Bywyd personol
[golygu | golygu cod]Bu David a'i gyd-aelod yn Datblygu, Pat, yn gariadon am ryw 3/4 mlynedd yn yr 1980au, ac yn ffrindiau gydol oes. Wedi cyfnod prysur gyda Datblygu ar ddechrau'r 1990au, gwaethygodd ei iechyd meddwl a chafodd ei anfon i'r ysbyty o dan y Ddeddf Iechyd Meddwl. Treuliodd gyfnod o 15 neu 16 mlynedd i mewn ac allan o'r ysbyty meddwl.[7][5]
Yn 2009, cymerodd Dave ran mewn rhaglen ddogfen O Flaen dy Lygaid: Gorawen, ynghyd a'i gyfaill yr actores a'r gantores Rhian Ree Davies. Roedd y ddau yn siarad yn agored am eu salwch, ac am eu cyfnodau mewn ysbytai meddwl.[8] Cyhoeddwyd hunangofiant David gan Y Lolfa ym mis Hydref 2009, sef Atgofion Hen Wanc.
Marwolaeth a theyrngedau
[golygu | golygu cod]Bu farw ar ddydd Sul 20 Mehefin 2021, yn ei gartref yng Nghaerfyrddin, yn 56 mlwydd oed.[1] Roedd wedi bod yn dioddef gyda phroblemau iechyd yn cynnwys epilepsi a chlefyd y siwgr. Cyhoeddwyd y neges gan label Ankstmusik ar Twitter nos Fawrth, 22 Mehefin.[9]
Dywedodd Emyr Glyn Williams o Label Recordiau Ankst fod Dave yn y broses o baratoi ar gyfer creu albym newydd gyda Pat Morgan.
Cafwyd nifer fawr o deyrngedau ar y cyfryngau cymdeithasol. Dywedodd Pat Morgan fod David yn "un o'r ffrindiau gorau allan rywun gael. Personoliaeth enfawr, hael, arth o ddyn; bydd ei ddylanwad yn dal i fyw".[10] Yn ôl y DJ ac actor Gareth Potter roedd hi'n "anrhydedd bod wedi gallu galw Dave yn ffrind" ac "Roedd Dave yn cynrychioli y teimlad ‘na o ankst, y teimlad o ‘ma raid bod mwy i fywyd na be oedd yn mynd ymlaen yng Nghymru ar y pryd’".[11]
Cafwyd teyrnged gan Brif Weinidog Cymru, Mark Drakeford yn dweud "Newyddion hynod o drist. Chwaraeodd ran allweddol yn sefydlu y diwylliant rydym yn ei nabod a’i fwynhau heddiw".[12]
Cynhaliwyd angladd preifat iddo am 1pm ar ddydd Sadwrn, 3 Gorffennaf yn Eglwys y Santes Fair, Aberteifi cyn ei gladdu ym mynwent Aberteifi.
Disgyddiaeth
[golygu | golygu cod]- Gweler y rhestr ar erthygl Datblygu
Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]- Cyfres y Beirdd Answyddogol: Al, Mae'n Urdd Camp, Mehefin 1992 (Y Lolfa, ISBN 9780862432706)
- Atgofion Hen Wanc, Hydref 2009 (Y Lolfa, ISBN 9781847716217)
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 (Saesneg) Hysbyseb marwolaeth David R EDWARDS. Carmarthen Journal (30 Mehefin 2021).
- ↑ Proffwyd heb anrhydedd; Hunangofiant athrylith amherffaith. , Daily Post, 4 Tachwedd 2009. Cyrchwyd ar 5 Gorffennaf 2016.
- ↑ 3.0 3.1 Prif leisydd Datblygu, David R Edwards wedi marw , BBC Cymru Fyw, 22 Mehefin 2021.
- ↑ (Saesneg) SCENE BUT NOT HEARD: PEELING BACK THE YEARS. Sound Nation (2004). Adalwyd ar 20 Awst 2007.
- ↑ 5.0 5.1 (Saesneg) Sarah King (22 Mai 2014). Datblygu Now. Wales Arts Review. Adalwyd ar 25 Mehefin 2021.
- ↑ (Saesneg) Datblygu - Wyau/Pyst/Libertino. BBC (Medi 2004). Adalwyd ar 22 Mehefin 2021.
- ↑ (Saesneg) Ioan Humphreys (21 Rhagfyr 2015). Datblygu – Interview with cult Welsh band. Louder Than War. Adalwyd ar 25 Mehefin 2021.
- ↑ O Flaen Dy Lygaid: Gorawen , WalesOnline, 6 Mehefin 2009. Cyrchwyd ar 22 Mehefin 2021.
- ↑ Datganiad Ankstmusik ar Twitter
- ↑ Pat Morgan [@patblygu] (22 Mehefin 2021). "David is no longer with us. He was one of the best friends you could ever have. A huge, generous personality, a bear of a man; his legacy will live on" (Trydariad) – drwy Twitter.
- ↑ Nath e ddod â drych i ddiwylliant Cymreig… , Golwg360, 23 Mehefin 2021. Cyrchwyd ar 27 Mehefin 2021.
- ↑ Mark Drakeford [@fmwales] (22 Mehefin 2021). "Newyddion hynod o drist. Chwaraeodd ran allweddol yn sefydlu y diwylliant rydym yn ei nabod a'i fwynhau heddiw. Incredibly sad news - Wales has lost a cultural giant" (Trydariad) – drwy Twitter.