Cig oen
Gwedd
Math | cig dafad |
---|---|
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Cig dafad yw cig oen, ac yn gyffredinol mae disgwyl bod y ddafad dan flwydd oed i'w hystyried yn oen. Os yw'r ddafad dros flwydd ond heb ddefnyddio dau ddant blaen, bydd ei chig yn cael ei alw'n hesbin neu hesbwrn. Unwaith mae dau ddant yn cael eu defnyddio gan y ddafad, mae'r cig yn cael ei alw'n gig mollt neu gig gwedder. Cig oen yw'r drytaf i'w brynu o'r tri math.
Mae cig oen yn aml yn cael ei weini gyda saws mint ac fel rhan o ginio rhost. Mae hefyd yn cael ei ddefnyddio mewn cawl Cymreig.
Gwerth cig oen a defaid fel allbwn amaethyddol o Gymru yn 2016 oedd £240 miliwn, 16.9% o gyfanswm gwerth allbwn amaethyddol Cymru.[1]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Llyfr Bach o Ffeithiau am Gig 2018" (PDF). Hybu Cig Cymru. 3 Mawrth 2019.