[go: up one dir, main page]

Neidio i'r cynnwys

Chihuahua

Oddi ar Wicipedia
Chihuahua
Mathtalaith Mecsico Edit this on Wikidata
PrifddinasChihuahua City Edit this on Wikidata
Poblogaeth3,556,574 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1824 Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraethMaría Eugenia Campos Galván Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC−07:00 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladBaner Mecsico Mecsico
Arwynebedd247,455 km² Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaSonora, Coahuila, Sinaloa, Durango, Texas, Mecsico Newydd Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau28.6392°N 106.0733°W Edit this on Wikidata
Cod post31 Edit this on Wikidata
MX-CHH Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Corff deddfwriaetholCongress of Chihuahua Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y Llywodraeth
Governor of Chihuahua Edit this on Wikidata
Pennaeth y LlywodraethMaría Eugenia Campos Galván Edit this on Wikidata
Map
Erthygl am y dalaith ym Mecsico yw hon. Am ystyron eraill i'r enw, gweler Chihuahua (gwahaniaethu).

Un o 31 talaith ffederal Mecsico, sy'n gorwedd yng ngogledd-orllewin y wlad am y ffin ag yr Unol Daleithiau (UDA), yw Chihuahua. Mae ganddi arwynebedd o 244,938 km sgwar (94,571.1 milltir sgwar). Fe'i amgylchynnir gan daleithiau Sonora, Sinaloa, Durango a Coahuila ym Mecsico ei hun a gan Texas a New Mexico dros y ffin i'r gogledd, yn UDA. Chihuahua yw'r dalaith fwyaf ym Mecsico, ffaith sydd wedi ennill iddi'r llysenw "El Estado Grande" ('Y Dalaith Fawr').

Lleoliad talaith Chihuahua ym Mecsico

Mae ei thirffurfiau amlwg yn cynnwys Anialwch Chihuahua, y Barranca del Cobre ('Canyon Copr') a'r Sierra Madre Occidental. Ceir nifer o fforestydd a hefyd wastadeddau eang (yn ardaloedd Casas Grandes, Cuauhtémoc a Parral).

Yn 2005, roedd 3.2 miliwn o drigolion yno. Y ddinas fwyaf yw Ciudad Juárez, ar y ffin ag UDA, gyda 1,301,452 o bobl. Chihuahua, gyda 748,518 o drigolion, yw prifddinas y dalaith.

Gwelwyd sawl brwydr rhwng y pobloedd Apache brodorol a'r Mecsicanwyr yn y dalaith yn y 19eg ganrif; lladdwyd Victorio a llawer o'i fand ger Tres Castillos yn 1880, er enghraifft. Bu gan Chihuahua rhan allweddol yn Chwyldro Mecsico pan fu'n dyst i ymladdfeydd mawr rhwng y chwyldroadwyr dan Pancho Villa a'r fyddin ffederal.

Cefn gwlad Chihuahua yn y gaeaf

Prif ddinasoedd a threfi

[golygu | golygu cod]

Dolenni allanol

[golygu | golygu cod]
Eginyn erthygl sydd uchod am Fecsico. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato