Tsierocïaid
Enghraifft o'r canlynol | grŵp ethnig |
---|---|
Math | Brodorion Gwreiddiol America yn UDA |
Mamiaith | Tsierocî, saesneg |
Poblogaeth | 299,862 |
Crefydd | Cristnogaeth, eneidyddiaeth, native american church |
Gwladwriaeth | Unol Daleithiau America |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Grŵp ethnig o frodorion Gogledd America yw’r Tsierocïaid neu Cherokee. Daw’r gair hwn o’r iaith Siocto "Cha-la-ke", sy’n golygu "y rhai sy’n byw yn y mynyddoedd". Yn wreiddiol roedd y Tsierocïaid yn eu galw eu hunain yn Ah-ni-yv-wi-ya ("Y brif pobl"). Maent yn siarad Cherokee, iaith Iroquoiaidd, sy’n defnyddio orgraff a ddyfeisiwyd gan Sequoyah.
Pan ddaethant i gysylltiad ag Ewropeaid gyntaf yn y 1600au roeddynt yn byw yn nwyrain a de-ddwyrain yr Unol Daleithiau presennol, yn enwedig taleithiau Georgia, Gogledd Carolina a De Carolina. Ystyrid hwy yn un o’r Pum Llwyth Gwâr. Yn y 1830au, a phoblogaeth Ewropeaidd y tiriogaethau hyn yn cynyddu’n gyflym, gorfodwyd y rhan fwyaf ohonynt i symud tua’r gorllewin i Lwyfandir Ozark yn Llwybr y Dagrau.
Yn ôl cyfrifiad 2000 yr Unol Daleithiau, y Tsierocïaid yw’r mwyaf niferus o’r 563 llwyth brodorol yn y wlad ac mae'r rhan fwyaf ohonynt yn byw yn Oklahoma. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf mae dadlau wedi bod dros gydnabod disgynyddion caethwesion duon fu gan y Tsierocïaid yn y cyfnod cyn Rhyfel Cartref America fel aelodau o Genedl y Tsierocî.
Fe'i adnebir yn nawddoglyd fel un o'r Pum Llwyth Gwâr.
Tsierocïaid enwog
[golygu | golygu cod]- Sequoyah, dyfeisydd orgraff yr iaith Tsierocî
- Elias Boudinot, gwleidydd ac awdur
- Ned Christie
- Will Rogers
- Jimi Hendrix, canwr o dras Tsierocïaid trwy ei nain
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]- Evan Jones, cenhadwr a gyfieithodd y Beibl i'r iaith Tsierocî
- Cyd-Destunoli'r Genhadaeth Gymreig i'r Tsalagi - cyfrol tairieithog am y Tsierocïaid
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- (Saesneg) The Cherokee Nation (safle swyddogol)
- (Saesneg) Eastern Band of Cherokee Indians Archifwyd 2012-01-19 yn y Peiriant Wayback (safle swyddogol)
- (Saesneg) United Keetoowah Band (safle swyddogol)