[go: up one dir, main page]

Neidio i'r cynnwys

Can (band)

Oddi ar Wicipedia
Can
Enghraifft o'r canlynolband Edit this on Wikidata
GwladBaner Yr Almaen Yr Almaen
Label recordioLiberty Records Edit this on Wikidata
Dod i'r brig1968 Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1968 Edit this on Wikidata
Genreroc blaengar, Krautrock, roc celf Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.spoonrecords.com/ Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Roedd Can yn grŵp roc arbrofol, arloesol Almaeneg, a ffurfiwyd ym 1968 gan y prif aelodau: Holger Czukay (bas), Irmin Schmidt (allweddellau), Michael Karoli (gitâr), and Jaki Liebezeit (drymau).

Cafodd y grŵp nifer o brif gantorion dros y blynyddoedd yn cynnwys Malcolm Mooney (1968–70) a Damo Suzuki (1970–73) a hefyd nifer o aelodau dros dro.[1]

Damo Suzuki yn 2008

Cawsant eu dylanwadu gan gerddoriaeth avant-garde a jazz rhydd, gan gynnwys ffurfiau minimalaidd ac electronig i greu rythm pwerus sy'n ailadrodd.

Roedd grwpiau Almaeneg ar ddiwedd y 1960au a dechrau'r 1970au yn chwilio am sut orau i ddatblygu eu steil eu hun. Nid oeddent am gopïo grwpiau Eingl-Americaniad neu gerddoriaeth Affro-Americaniad gan deimlo nad oeddent yn dod o'r un cefndir ac nad oedd rhythmau Soul neu Funk yn dod yn naturiol iddynt.

Nid oeddent chwaith yn gallu troi am ysbrydoliaeth i ddiwylliant na thraddodiadau'r Almaen am iddynt fod a chywilydd am Natsïaeth. Roedd llawer o bobl ifanc yr Almaen yn credu roeddent ar ddechrau Stunde Null (blwyddyn dim) a rhaid iddynt greu diwylliant newydd sbon gan edrych tua'r dyfodol a'r tu allan.

Dechreuodd nifer o grwpiau arbrofol yr Almaen ymddiddori yn ffuglen-wyddonol (Science Ficiion) a enwyd eu steil o gerddoriaeth Kosmische musik (cerddoriaeth cosmig). Cafodd y dôn newydd o grwpiau Almaenig Kosmische musik eu diystyru gan wasg Lloegr gan eu galw'n sarhaus 'Krautrock'.[2][3][4]

Dylanwad

[golygu | golygu cod]

Ar y cyfan roedd poblogrwydd y grŵp yn gyfyngedig i ddilyniant 'cult' brwd, Ond mae Can wedi bod yn ddylanwad mawr ar sŵn nifer o gerddorion diweddarach. Mae sŵn dylanwad Can i'w clywed ar lawer o steil The Fall, a rhyddhawyd The Fall cân o'r enw I am Damo Suzuki ym 1985

Mae cerddorion fel Public Image Ltd, Siouxsie and the Banshees, Joy Division, Suicide, David Bowie, Talking Heads, Pavement, The Stone Roses, Lumerians, Happy Mondays, Talk Talk, Primal Scream a Sonic Youth i gyd wedi cyfeirio at Can fel dylanwad. Mae Brian Eno wedi gwneud ffilm fer fel teyrnged i Can ac wnaeth John Frusciante o'r Red Hot Chili Peppers gyflwyno gwobr Echo mewn seremoni ar gyfer gitarydd Michael Karoli.[5]

Mae recordiau Can wedi cael eu samplo'n aml. Er enghraifft wnaeth Kanye West samplo "Sing Swan Song" ar ei gân "Drunk & Hot Girls”. Dywedir i gan 1971 "Turtles Have Short Legs" cael ei ddefnydio ar gyfer gêm PlayStation.[6]

Recordiau hir stiwdio

[golygu | golygu cod]
  • Monster Movie (1969)
  • Soundtracks ' (1970)
  • Tago Mago (1971)
  • Ege Bamyasi (1972)
  • Future Days (1973)
  • Soon Over Babaluma (1974)
  • Landed (1975)
  • Flow Motion (1976)
  • Saw Delight (1977)
  • Out of Reach (1978)
  • Can (1979)
  • Rite Time (1989)

Gweler hefyd

[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. https://www.allmusic.com/artist/can-mn0000645612/biography
  2. http://www.progarchives.com/subgenre.asp?style=17
  3. http://www.ft.com/cms/s/2/5952839c-1660-11e4-8210-00144feabdc0.html#axzz472C21Ird
  4. https://en.wikipedia.org/wiki/Stunde_Null
  5. Can – Biography, Intuitive Music, 16 August 2003, archived from the original on 9 March 2011, retrieved 16 June 2010
  6. "Musical Miscreants: Game Music That Sounds a Little Too Familiar". 1UP.com. IGN Entertainment. Archived from the original on 3 August 2012. Retrieved 29 July 2015.