Bidalasana (Y Gath)
Enghraifft o'r canlynol | asana |
---|---|
Math | asanas penlinio |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Asana, neu osgo mewn ymarferion ioga yw Bidalasana (Sansgrit: बिडालासन; IAST: biḍālāsana) neu Marjariasana (biḍālāsana; IAST mārjarīāsana), mae'r ddau enw'n golygu asana'r Gath. Asana penlinio ydyw, ac fe'i ceir mewn ymarferion ioga modern fel ymarfer corff.[1]
Amrywiad
[golygu | golygu cod]- Amrywiad gydag un goes wedi'i ddal allan yw Vyaghrasana (Sansgrit: व्याघ्रासन; IAST: vyaghrāsana), asana'r Teigr.
- Amrywiad gyda'r cefn wedi ei ostwng yw Bitilasana (Sansgrit: बितिलासन; IAST bitilāsana), y Fuwch. Defnyddir yr asana hwn yn aml fel gwrth-asana, ac ymarferiad a ddefnyddir yn aml yw newid rhwng y Gath a'r Fuwch dro ar ôl tro.
Mae asana gwahanol, Marjarottanasana, sy'n golygu siap y gath, wyneb i waered, i'w weld yn Sritattvanidhi yn y 19g.[2]
Rhestrir ystum o'r enw Vyaghrasana neu asana'r teigr ond nid yw wedi'i ddisgrifio yn Hatha Ratnavali o'r 17g.[3]
Mae'r ystum yn cael ei ystyried yn Sivananda Yoga i fod yn addas i'w ddefnyddio yn ystod beichiogrwydd.[4][5]
Amrywiadau
[golygu | golygu cod]Mewn amrywiadau o'r ystum, mae un goes yn cael ei hymestyn yn syth yn ôl, ac yna gellir plygu pen-glin y goes estynedig fel bod y droed yn pwyntio'n syth i fyny; gellir estyn y llaw gyferbyn hefyd; gelwir hwn yn Vyaghrasana (Y Teigr).[6][7]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ YJ Editors (28 Awst 2007). "Cat Pose - Marjaryasana". Yoga Journal.
- ↑ Sjoman, Norman E. (1999) [1996]. The Yoga Tradition of the Mysore Palace. Abhinav Publications. tt. 81 and plate 14 (pose 82). ISBN 81-7017-389-2.
- ↑ Lidell, Lucy; The Sivananda Yoga Centre (1983). The book of yoga. Ebury. t. 166. ISBN 978-0-85223-297-2. OCLC 12457963.
- ↑ Holstein, Barbara B. (1988). Shaping Up for a Healthy Pregnancy. Life Enhancement Publications. t. 76. ISBN 978-0-87322-926-5.
- ↑ "Vyaghrasana – Tiger Pose". Pranayoga. 27 Gorffennaf 2014. Cyrchwyd 4 Chwefror 2019.
- ↑ "Vyaghrasana | The Tiger". Yoga in Daily Life. Cyrchwyd 29 Mawrth 2019.