Ben Kingsley
Ben Kingsley | |
---|---|
Ganwyd | Krishna Pandit Bhanji 31 Rhagfyr 1943 Snainton |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig |
Alma mater | |
Galwedigaeth | actor ffilm, actor, actor cymeriad, actor llwyfan, actor teledu |
Arddull | comedi Shakespearaidd |
Priod | Daniela Lavender, Angela Morant, Alison Sutcliffe |
Plant | Ferdinand Kingsley |
Gwobr/au | Gwobr yr Academi am Actor Gorau, Gwobr BAFTA am Actor Gorau mewn Prif Rhan, Gwobr BAFTA am y Newydd-ddyfodiad Mwyaf Addawol i brif Actorion Ffilm, Gwobr y Cylch Beirniaid Ffilm i'r Actor Gorau, Gwobr y 'New York Film Critics' am yr Actor Gorau, Gwobr Bwrdd Cenedlaethol Adolygiadau Ffilm am yr Actor Gorau, Golden Globe Award for New Star of the Year – Actor, Gwobr Cymdeithas Beirniaid Ffilm Los Angeles ar gyfer yr Actor Gorau, Gwobr Golden Globe am Actora Gorau - Drama Ffilm Nodwedd, Gwobr BIFA am Berfformiau Gorau gan Actor Mewn Ffilm Brydeinig Annibynnol, Broadcast Film Critics Association Award for Best Supporting Actor, Gwobr Urdd Actorion Sgrin i Actor Gwrywaidd mewn Cyfres Bitw neu Ffilm Deledu, Marchog Faglor, Gwobr Grammy am yr Albwm Llafar Gorau, Padma Shri yn y celfyddydau, CBE, Gwobr Ffilm Ewropeaidd am Actor Gorau, seren ar Rodfa Enwogion Hollywood |
llofnod | |
Actor o Loegr ydy Sir Ben Kingsley, CBE (ganed Krishna Pandit Bhanji; 31 Rhagfyr 1943). Yn ystod ei yrfa sydd wedi ymestyn dros deugain mlynedd, mae ef wedi ennill Oscar, Grammy, BAFTA, dau Golden Globe a Gwobr Urdd yr Actorion Sgrin. Mae ef fwyaf adnabyddus am chwarae'r brif ran fel Mohandas Gandhi yn y ffilm Gandhi ym 1982, pan enillodd Wobr yr Academi am yr Actor Gorau. Chwaraeodd rannau hefyd yn y ffilmiau Schindler's List (1993), Sexy Beast (2000), Lucky Number Slevin (2006), Shutter Island (2010), Prince of Persia: The Sands of Time (2010), Hugo (2011), a Iron Man 3 (2013). Yn 2013 derbyniodd wobr 'Albert R. Broccoli am Gyfraniad Fyd-eang i Adloniant Ffilm' yn BAFTA Los Angeles.
Derbyniodd Kingsley Cadlywydd Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig (CBE) yn 2000, ac fe'i wnaed yn Farchog Gwyryf gan y Frenhines Elizabeth II yn 2002.[1] Yn 2010, cafodd Kingsley seren ar Lwybr Enwogion Hollywood.[2]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Sir Ben: Knighthood beats Oscar". BBC News. Adalwyd ar 3 Mawrth 2013
- ↑ "Sir Ben Kingsley gets star on Hollywood Walk of Fame" BBC News. 28 Mai 2010. Adalwyd ar 12 Rhagfyr 2014