Attila
Attila | |
---|---|
Ganwyd | Mileniwm 1. |
Bu farw | 453 o Unknown, choking Pannonia |
Dinasyddiaeth | Hunnic Empire |
Galwedigaeth | penadur |
Swydd | king of the Huns |
Tad | Mundzuk |
Priod | Kreka, Ildico, Eskam's daughter |
Plant | Ellac, Dengizich, Ernakh |
Roedd Attila (c.406 – Mawrth 453) yn frenin yr Hyniaid, a enillodd iddo'i hun y llysenw "Fflangell Duw".
Y cynghrair
[golygu | golygu cod]Yn 434 daeth yn gyd-frenin, gyda'i frawd, ar ffederasiwn lac o nifer fawr o lwythi Hun o ganolbarth Asia a oedd ar wasgar rhwng Môr Caspia ac Afon Daniwb. Cyn bo hir roedd gan Attila Fandaliaid, Ostrogothiaid, Gepidiaid a Ffranciaid yn ymladd dan ei faner yn ogystal ac roedd yn rheoli tiriogaeth a ymestynnai o Afon Rhein yn yr Almaen i Sgythia ar ffin orllewinol Tsieina.
Ymosod ar Ymerodraeth y dwyrain
[golygu | golygu cod]Yn 447 arweiniodd gyfres o gyrchoedd dinistriol ar yr holl daleithiau Rhufeinig rhwng y Môr Du a'r Môr Canoldir. Gorchfygodd yr ymerodr Theodosius II mewn tair brwydr waedlyd a dim ond ei muriau trwchus ac anwybodaeth yr Hyniaid â'u cynghreiriad o dactegau gwarchae a achubodd Gaergystennin rhag syrthio. Goresgynnwyd Thrace, Macedon a gwlad Groeg ei hun hefyd a chymhellwyd Theodosius i ildio tiriogaeth i'r de o Afon Daniwb ac i dalu teyrnged arian i Attila.
Gâl
[golygu | golygu cod]Yn 451 ymosododd Attila ar Gâl, ond llwyddodd Aetius, y pennaeth Rhufeinig, a'i gynghreiriad Theodoric, brenin y Visigothiaid, i godi ei warchae ar ddinas Orléans a'i drechu'n llwyr wedyn mewn brwydr gostus ar wastadedd Catalaunia, ger Châlons-sur-Marne.
Y cyrch ar Rufain
[golygu | golygu cod]Tynnodd Attila yn ôl i Hwngari, ond y flwyddyn ar ôl hynny gwnaeth cyrch i'r Eidal gan anrheithio Aquileia, Milan, Padova a dinasoedd Rhufeinig eraill. Dim ond ymyrraeth bersonol Pab Leo I, a roddodd swm anferth o arian i Attila, a achubodd ddinas Rhufain ei hun rhag cael ei dinistrio.
Bu farw Attila yn 453, yn fuan wedi ei briodas i dywysoges Fwrgwynaidd o'r enw Ildeco, a chyda'i farwolaeth bu trai ar ymerodraeth yr Hun.
Cymeriad chwedlonol
[golygu | golygu cod]Mae Attila yn gymeriad yn y Nibelungenlied Almaeneg dan yr enw Etzel ac yn ymddangos fel Atli yn y Völsunga Saga Hen Islandeg.
Oherwydd iddo farw yn ei wely fel canlyniad i waedlif drom, fe ymddengys, ymledodd sïon fod ei wraig Ildeco wedi llofruddio Attila er mwyn dial arno.