Athamé
Enghraifft o'r canlynol | weapon functional class |
---|---|
Math | cold weapon, ceremonial weapon |
Dagr seremonïol gyda llafn daufiniog yw'r Athamé neu Athame, un o sawl offeryn a ddefnyddir i ddewino yn Wica, neo-baganiaeth a thraddodiadau eraill yr Oes Newydd. Mae cyllell gyda llafn daufiniog o'r enw arthame yn ymddangos yn y Clavicula Salomonis, sydd yn llyfr hudol o'r Oesoedd Canol.[1]
Mae'r Athamé yn ymddangos mewn ysgrifen Gerald Gardner yn y 1950au; dyn a boblogeiddiodd Wica (sydd yn grefydd neo-baganaidd) oedd Gardner. Yn ôl rhai sy'n ymarfer Wica, yr offeryn defodol mwyaf pwysig yw'r Athamé, oherwydd caiff ei defnyddio hi mewn llawer o arferion a defodau ysbrydol, ond ni ddefnyddir hi byth i dorri'r corff.[2]
Dywed Philip Heselton[3] oherwydd diddordeb a medrusrwydd Gardner mewn cleddyfau a chyllyll hen ffasiwn, ac yn enwedig y cyllyll kris hudol o Falaysia ac Indonesia, y ceir pwyslais canolog ar yr Athamé yn Wica.[4]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ MacGregor Mathers, S. Liddell (ed.) The Key of Solomon (Clavicula Salomonis) Wedi'i ddiwygio gan Peterson, Joseph H. (1999, 2004, 2005). Ar gael yma
- ↑ Gardner, Gerald. Witchcraft Today (1954) Llundain: Rider. Tudalen 150
- ↑ Heselton. Wiccan Roots
- ↑ Gardner, Gerald. Keris and other Malay weapons (1936) Singapôr: Progressive Publishing Company