Ardudwy Is Artro
Math | cwmwd |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Gwynedd |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 52.787724°N 4.076708°W |
Cwmwd canoloesol ar lan ogleddol Bae Ceredigion yng ngogledd-orllewin Cymru oedd Ardudwy Is Artro. Gydag Ardudwy Uwch Artro, cafodd ei ffurfio allan o hen gantref Ardudwy.
Hanes
[golygu | golygu cod]Dynodai Afon Artro y ffin rhwng Is Artro ac Uwch Artro i'r gogledd. Y ffin yn y de oedd aber Afon Mawddach gyda chwmwd Tal-y-bont yng nghantref Meirionnydd yn gorwedd ar y lan arall.[1]
Cwmwd bychan, mynyddig, yw Is Artro, sy'n gorwedd yng nghongl de-orllewinol Ardudwy ar lan Bae Ceredigion. Ystumgwern oedd maerdref y cwmwd. Roedd y llannau yn cynnwys Llanaber a Llanenddwyn. Y prif blasdy erbyn diwedd yr Oesoedd Canol oedd Corsygedol, cartref y Fychaniaid.[1]
Yn fuan yn ei hanes daeth y diriogaeth yn rhan o Deyrnas Gwynedd. Daeth y cwmwd yn rhan o'r Sir Feirionnydd newydd fel rhan o drefniant Statud Rhuddlan yn 1282.[1] Heddiw mae'n gorwedd yng Ngwynedd.
Plwyfi
[golygu | golygu cod]Erbyn yr Oesoedd Canol Diweddar ceir pedwar plwyf yn y cwmwd:
- Llanaber, yn cynnwys Abermaw
- Llanenddwyn
- Llanelltud
- Llanddwywe, plwyf a oedd yn cynnwys dwy ran gyda darn o blwyf Llanelltud yn eu gwahanu:
- Llanddwywe-is-y-graig
- Llanddwywe-uwch-y-graig