Ardal Lywodraethol Zarqa
Math | Ardaloedd Llywodraethol Gwlad Iorddonen |
---|---|
Prifddinas | Zarqa |
Daearyddiaeth | |
Sir | Gwlad Iorddonen |
Gwlad | Gwlad Iorddonen |
Arwynebedd | 4,761.3 km² |
Yn ffinio gyda | Mafraq Governorate, Ardal Lywodraethol Amman, Jerash Governorate, Balqa Governorate |
Cyfesurynnau | 31.83°N 36.83°E |
JO-AZ | |
Ardal Lywodraethol Zarqa (Arabeg: محافظة الزرقاء Muħāfazat az-Zarqāʔ; tafodieithoedd lleol "ez-Zergā" neu "ez-Zer'a") yw'r trydydd Ardal Lywodrethol ("Gofernad") fwyaf yn Iorddonen yn ôl poblogaeth. Prifddinas Gofernad Zarqa yw dinas Zarqa City, sef y ddinas fwyaf yn y dalaith. Mae wedi ei leoli 25 cilomedr (16 milltir) i'r dwyrain o brifddinas yr Iorddonen Amman. Yr ail ddinas fwyaf yn y llywodraethiant yw Rwseiffa.
Mae Gofernad Zarqa yn gartref i ganolfannau milwrol ac awyr mwyaf lluoedd arfog yr Iorddonen.
Hanes
[golygu | golygu cod]Ceir olion o aneddau a gwareiddiad yn ardal bresenol Gofernad Zarqa ers o leiaf yr Oes Efydd, yr amlycaf oedd y teyrnasau Amonitiaid a'r Nabateaniaid, a adeiladodd y gaer o'r enw Qasr al Hallabat, a ddefnyddiwyd wedyn gan y Rhufeiniaid, ac yna fel palas anialwch gan yr linach Fwslim yr Umayyad.
Yr olion hanesyddol mwyaf arwyddocaol yw'r palasau anialwch llinach derynasol yr Umayyad, megis Qasr Amra, safle Treftadaeth y Byd, Qasr al Hallabat, Qasr Shabib yng nghanol dinas Zarqa, yn ogystal â Chastell Azraq.
Castell Azraq
[golygu | golygu cod]Ar ôl adeiladu rheilffordd Hejaz gan y Tyrciaid Otoman ar ddechrau'r 1900au, daeth Zarqa yn ganolbwynt strategol bwysig yn y cyswll rhwng dinasoedd Damascus â Medina, a dechreuodd dinasoedd ar hyd y rheilffordd lewyrchu. Yn ddiweddarach, roedd gan Lleng Arabaidd yr Iorddonen (Jordanian Arab Legion) dan arweiniad Glubb Pasha ei brif ganolfannau yn nhalaith Zarqa.
Daearyddiaeth
[golygu | golygu cod]Mae Gornad Zarqa Governorate yn ffinio â Mafraq i'r gogledd a'r gogledd-ddwyrain, Amman i'r De-orllewin a Jerash a Balqa i'r gorllewin. Mae hefyd yn rhannu ffin ryngwladol â Sawdi Arabia yn ei hochr de-ddwyreiniol.
Qasr Amra, Safle Treftadaeth y Byd
[golygu | golygu cod]Mae'r rhan fwyaf o'r ardal a gwmpesir gan y Gofernad yn rhan o lwyfandir anialwch Syria. Mae rhanbarthau gorllewinol poblog y dalaith yn rhan o fasn Afon Zarqa. Mae'r ddwy ddinas, Zarqa a Rwseiffa (sillefir hefyd fel Russeifa) yn gorwedd fel ail a phedwerydd dinasoedd fwyaf yr Iorddonen.
Demograffeg
[golygu | golygu cod]Siroedd Gofernad Zarka Dangosodd gyfrifiad 2004 bod poblogaeth Gofernad Zarqa am y flwyddyn honno yn 764,650 ac ystyrir bod 94.5% yn boblogaeth drefol a 5.5% yn boblogaeth wledig. Roedd dinasyddion yr Iorddonen yn cyfrif am 97% o'r boblogaeth. Y gymhareb benyw i ddynion oedd 46% i 54%. Amcangyfrif poblogaeth Adran Ystadegau Jordanian ar gyfer y flwyddyn 2010 yw 910,800 gyda chymhareb menywod i ddynion o 48.25 i 51.75 a dwysedd poblogaeth o 191.3 o bobl fesul Km sgwâr.
Demographics of Zarqa Governorate | 2004 Census [1] | 2010 Estimate |
---|---|---|
Female to Male ratio | 46% to 54% | 48.25% to 51.75% |
Jordanian citizens to foreign nationals | 97% to 3% | N/A |
Urban population | 727,268 | 860,700 |
Rural population | 37,382 | 50,100 |
Total population | 764,650 | 910,800 |
Poblogaeth yr is-raniadau lleol yn ôl y cyfrifiad:[2]
District | Poblogaeth (Cyfrifiad 1994) |
Poblogaeth (Cyfrifiad 2004) |
Poblogaeth (Cyfrifiad 2015) |
---|---|---|---|
Zarqa Governorate | 639,469 | 764,650 | 1,364,878 |
Al-Hāshimiyah | ... | 46,311 | 80,713 |
Russeifa|Ar-Ruṣayfah (Russeifa) | ... | 268,237 | 481,900 |
Qaṣabah az-Zarqā' | ... | 450,102 | 802,265 |
Economi
[golygu | golygu cod]Oherwydd ei leoliad agos i'r dinasoedd poblog yr Iorddonen, mae gan Ardal Lywodraethol Zarqa y nifer fwyaf o ffatrïoedd yn yr Iorddonen, ac mae unig ffatri burfa olew yr Iorddonen wedi'i leoli yn Zarqa.
Lleolir Awyrfa Filwrol Muwaffaq Salti (y fwyaf yn y wlad), yn Azraq. Lleoliad hefyd tair prifysgol yn y dalaith: Prifysgol Hashemite,[3] Coleg Cymhwysol Prifysgol-Zarqa,[4] a Phrifysgol Breifat Zarqa.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Jordan National Census of 2004 Table 3-1" (PDF). Dos.gov.jo. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar July 22, 2011. Cyrchwyd 2015-09-27. Unknown parameter
|deadurl=
ignored (help) - ↑ "Jordan: Administrative Division, Governorates and Districts". citypopulation.de. Cyrchwyd 25 December 2016.
- ↑ "HU. The Hashemite University /الجامعة الهاشمية". Hu.edu.jo. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2018-02-24. Cyrchwyd 2015-09-27.
- ↑ "Al-Balqa Applied University". Bau.edu.jo. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-08-11. Cyrchwyd 2015-09-27.