An Blascaod Mór
Math | ynys |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Ynysoedd Blasket |
Sir | Swydd Kerry |
Gwlad | Gweriniaeth Iwerddon |
Arwynebedd | 4.29 km² |
Uwch y môr | 292 metr |
Gerllaw | Cefnfor yr Iwerydd |
Cyfesurynnau | 52.0925°N 10.5425°W |
Ynys fwyaf Ynysoedd Blasket oddi ar arfordir Swydd Kerry yn ne-orllewin Gweriniaeth Iwerddon yw An Blascaod Mór (Saesneg: Great Blasket).
Saif yr ynys tua 2 km o'r tir mawr. Roedd pobl yn byw arni hyd 1953, pan benderfynodd Llywodraeth Iwerddon nad oedd modd eu cynnal yno. Hwy oedd y boblogaeth fwyaf gorllewinol yn Ewrop, ac roedd yno ddiwylliant unigryw, Gwyddeleg ei iaith. Er na fu'r boblogaeth erioed yn fawr, efallai 150 ar ei uchafbwynt, cynhyrchwyd nifer o weithiau llenyddol pwysig gan drigolion yr ynys. Yn eu plith roedd Machnamh Seana-mhná ("Myfyrdodau Hen Wraig", wedi'i gyhoeddi yn Saesneg fel An Old Woman's Reflections) gan Peig Sayers, Fiche Bliain Ag Fás ('"Ugain Mlynedd yn Tyfu", wedi'i gyhoeddi yn Saesneg fel Twenty Years A-Growing) gan Muiris Ó Súilleabháin ac An t-Oileánach ("Yr Ynyswr", wedi'i gyhoeddi yn Saesneg fel The Islandman) gan Tomás Ó Criomhthain.
Ar un adeg roedd hostel a chaffi ar yr ynys, ond maent yn awr wedi cau. Dymuniad y llywodraeth yw ei gwneud yn barc cenedlaethol, ond mae dadl ynglŷn â pherchenogaeth y tir.