Alger
Delwedd:Argel 3.jpg, Algiers's Airport.jpg, Alger monochrome.jpg, Algiers Icon.png, Algiers Montage.png, At night in Algiers, Algeria.jpg, Central Algeria at night.jpg, Algiers Grand Post.jpg, Algiers in the morning.jpg, I love Algiers.jpg | |
Math | anheddiad dynol, dinas |
---|---|
Poblogaeth | 2,364,230 |
Sefydlwyd | |
Cylchfa amser | UTC+01:00 |
Gefeilldref/i | Caracas, Montréal, Tiwnis, Tyrus, Amsterdam, Tripoli, Surakarta, Beijing, Berlin, Cairo, Casablanca, Llundain, Moscfa, Dinas Efrog Newydd, Barcelona, Dakar, Asunción, Bosaso, Sofia, Amman, El Aaiún, P'yŏngyang, City of Tshwane Metropolitan Municipality, Rhanbarth Brwsel-Prifddinas, Abu Dhabi, Colombes, Daejeon |
Iaith/Ieithoedd swyddogol | Arabeg, Ieithoedd Berber |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Central Algeria |
Sir | Talaith Algiers |
Gwlad | Algeria |
Arwynebedd | 363 km² |
Uwch y môr | 0 metr |
Gerllaw | Y Môr Canoldir |
Cyfesurynnau | 36.7764°N 3.0586°E |
Cod post | 16000–16132 |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | Maer Alger |
Alger neu Algiers (Arabeg al-Jazā'ir) yw prifddinas Algeria. Wedi'i lleoli yng nghanol arfordir Algeria ar y Môr Canoldir, Alger yw un o'r prif borthladdoedd ar y môr hwnnw a dinas fwyaf y wlad. Mae'r casbah (yr hen ddinas) ar restr UNESCO o Safleoedd Treftadaeth y Byd yn Affrica.
Hanes
[golygu | golygu cod]Cafodd Alger ei sefydlu gan y Ffeniciaid dros 2600 mlynedd yn ôl ond erbyn i'r Arabiaid gyrraedd yn y 7g roedd yn bentref bach dibwys. Cafodd ei datblygu gan yr Arabiaid o'r 10g ymlaen a thyfodd yn gyflym i fod yn ddinas fawr a llewyrchus. Yn y 16g fe'i meddianwyd gan y Tyrciaid Otomanaidd ac fe'i defnyddid fel gwersyll ar gyfer Môr-ladron Barbari, e.e. Khair-ed-din Barbarossa, a gipiodd y ddinas yn 1539.
Cipiodd Ffrainc y ddinas oddi ar Dwrci yn 1830 a'i gwneud yn brifddinas ei thalaith newydd, Algeria. Sefydlwyd Prifysgol Alger yn 1879. Yn ystod yr Ail Ryfel Byd Alger oedd pencadlys lluoedd y Cynghreiriaid yng Ngogledd Affrica ac, am gyfnod, yn bencadlys llywodraeth alltud Ffrainc. Bu'r ddinas yn dyst i ymladd ar sawl achlysur yn ystod y frwydr dros annibyniaeth i'r wlad ar Ffrainc (1954-1962).
Economi
[golygu | golygu cod]Mae ei hallforion yn cynnwys gwin, ffrwythau sitrus a haearn.