Ajay Banga
Ajay Banga | |
---|---|
Ajay Banga ar 4 Mai 2023. | |
Ganwyd | 10 Tachwedd 1959 Khadki |
Man preswyl | Purchase |
Swydd | arlywydd |
Gweithredwr busnes Indiaidd-Americanaidd yw Ajay Banga (ganed 10 Tachwedd 1959) a wasanaetha yn Llywydd Banc y Byd ers 2023.
Ganed ef yn Pune, yn nhalaith Maharashtra, India, yn fab i swyddog yn y fyddin. Astudiodd economeg yng Ngholeg San Steffan yn Delhi, ac enillodd ei Feistr Gweinyddiaeth Busnes o'r Sefydliad Rheolaeth Indiaidd yn Ahmedabad. Cychwynnodd ar ei yrfa fusnes yn India ym 1981, gan weithio i adrannau Nestlé ac yna PepsiCo yn y wlad honno. Gweithiodd mewn sawl rôl, gan gynnwys gwerthu, marchnata, a rheoli. Ymunodd â banc Citigroup ym 1996, ac erbyn 2005 fe'i dyrchafwyd yn brif weithredwr yr ardan ddefnyddwyr ryngwladol. Yn 2008 fe'i penodwyd yn weithredwr gyda chyfrifoldeb dros holl fusnes Citigroup yn Asia ac Oceania, a threuliodd ei flwyddyn olaf gyda'r banc yn gweithio yn Hong Kong ac Efrog Newydd.
Ymsefydlodd Banga yn Unol Daleithiau America yn 2009 wedi iddo gael ei benodi'n llywydd a phrif swyddog gweithredu Mastercard, un o gorfforaethau gwasanaethau ariannol mwyaf y byd. Yn 2010 fe'i dewiswyd i olynu Robert W. Selander yn brif weithredwr y cwmni. Ildiodd Banga swydd y prif weithredwr i Michael Miebach yn Rhagfyr 2020, a threuliodd ei flwyddyn olaf gyda'r cwmni yn gadeirydd gweithredol nes iddo ymddeol o Mastercard yn Rhagfyr 2021. Enillodd y nawfed safle ar restr Fortune o "Berson Busnes y Flwyddyn" yn 2020.[1]
Wedi iddo adael Mastercard, cafodd ei hurio'n is-gadeirydd gan y cwmni ecwiti preifat General Atlantic. Yn y swydd honno, eisteddai ar fwrdd ymgynghorol y gronfa hinsawdd, a chanddi werth o $3.5 biliwn. Gweithiodd hefyd gyda'r Tŷ Gwyn fel cyd-gadeirydd y Bartneriaeth dros Ganolbarth America, menter gyda'r nod o gynyddu busoddi gan y sector preifar yng Nghanolbarth America i geisio lleihau'r niferoedd o fewnfudwyr i'r Unol Daleithiau. Eisteddai hefyd ar y ford gyfarwyddwyr o sawl corfforaeth a sefydliad, gan gynnwys cwmni cemegion Dow a'r Cyngor Criced Rhyngwladol.
Wedi i David Malpass gyhoeddi yn Chwefror 2023 ei fod am ymddiswyddo o lywyddiaeth Banc y Byd, enwebwyd Banga gan Joe Biden, Arlywydd yr Unol Daleithiau, i'w olynu.[2] Ar 3 Mai fe'i etholwyd yn Llywydd Grŵp Banc y Byd, heb ymgeisydd arall na gwrthwynebiad, er i Rwsia ymatal â'i phleidlais.[3] Cychwynnodd yn ei dymor pum-mlynedd yn y swydd ar 2 Mehefin 2023.[4]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ (Saesneg) "Ajay Banja | 2020 Businessperson of the Year", Fortune (2020). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 10 Gorffennaf 2023.
- ↑ (Saesneg) "US puts forward Ajay Banga to lead World Bank", BBC (23 Chwefror 2023). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 10 Gorffennaf 2023.
- ↑ (Saesneg) Alan Rappeport, "Ajay Banga Confirmed as World Bank Leader", The New York Times (3 Mai 2023). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 3 Mai 2023.
- ↑ (Saesneg) "Ajay Banga", Banc y Byd. Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 10 Gorffennaf 2023.