196 CC
Gwedd
3g CC - 2g CC - 1g CC
240au CC 230 CC 220au CC 210au CC 200au CC - 190au CC - 180au CC 170au CC 170au CC 160au CC 150au CC
201 CC 200 CC 199 CC 198 CC 197 CC - 196 CC - 195 CC 194 CC 193 CC 192 CC 191 CC
Digwyddiadau
[golygu | golygu cod]- Byddin Antiochus III, brenin yr Ymerodraeth Seleucaidd, yn croesi'r Hellespont i Thrace, lle mae'n hawlio tiriogaethau a enillwyd gan Seleucus I yn 281 CC. Mae Gweriniaeth Rhufain yn gyrru llysgenhadon i fynnu ei fod yn aros allan o Wlad Groeg ac yn rhyddhau gwladwriaethau Anatolia; mae cAntiochus yn gwrthod.
- Gweriniaeth Rhufain yn gorchfygu'r Insubres, llwyth Galaidd o ddyffryn Afon Po.
- Yn y Gemau Isthmiaidd yn ninas Corinth, mae'r cadfridog Rhufeinig Titus Quinctius Flamininus yn cyhoeddi fod y Groegiaid i gyd i fod yn rhydd ac yn byw dan eu deddfau eu hunain.
- Flamininus yn cyhuddo Nabis, rheolwr Sparta, o orthrwm, yn cipio Gythium oddi arno ac yn ei orfodi i ildio Argos.