Tolar
Gwedd
Uned arian Slofenia o 1991 tan 2006 oedd y tolar. Rhennid yn 100 stotin.
Roedd papurau 10, 20, 50, 100, 200, 500, 1000, 5000 a 10,000 tolar mewn cylchrediad. Darluniwyd ffigyrau enwog o hanes, diwylliant a gwyddoniaeth Slofenia arnynt, gan gynnwys y diwygiwr Protestannaidd a chyfieithydd y Beibl Primož Trubar, y mathemategydd Jurij Vega, y pensaer Jože Plečnik, yr awdur Ivan Cankar a'r bardd France Prešeren.
Diddymwyd y tolar ym mis Ionawr 2007, pryd cyflwynyd yr ewro fel arian cyfredol Slofenia gyda chyfradd cyfnewid o 239.640 tolar i'r ewro.
Papurau banc tolar
Gwerth | Ochr flaen | Ochr gefn | Printiwyd gyntaf | Cyflwynwyd |
10 tolar | 15 Ionawr 1992 | 27 Tachwedd 1992 | ||
20 tolar | 15 Ionawr 1992 | 28 Rhagfyr 1992 | ||
50 tolar | 15 Ionawr 1992 | 19 Mawrth 1993 | ||
100 tolar | 15 Ionawr 1992 | 30 Medi 1992 | ||
200 tolar | 15 Ionawr 1992 | 30 Medi 1992 | ||
500 tolar | 15 Ionawr 1992 | 30 Medi 1992 | ||
1000 tolar | 15 Ionawr 1992 | 30 Medi 1992 | ||
5000 tolar | 1 Mehefin 1993 | 13 Rhagfyr 1993 | ||
10,000 tolar | 28 Mehefin 1994 | 15 Mawrth 1995 |