Tendon
Enghraifft o'r canlynol | dosbarth o endidau anatomegol, math o feinwe |
---|---|
Math | dense regular connective tissue, darn o organ, endid anatomegol arbennig |
Rhan o | striated muscle tissue |
Yn cynnwys | meinwe gyswllt |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
- Adnabyddir tennynau hefyd fel gewynnau, am yr erthygl hwnnw gweler tennyn.
Meinwe gyswllt yw tendon neu gewyn sy'n cysylltu'r cyhyrau i'r asgwrn mewn bodau dynol ac mewn anifeiliaid eraill. Gall wrthsefyll tensiwn i raddau helaeth. Mae'r tendon yn wahanol i'r tennyn (ligament), sy'n cysylltu asgwrn i asgwrn. Mae tendonau a chyhyr, felly'n gweithio gyda'i gilydd i dynnu.
Eu gwneuthuriad
[golygu | golygu cod]Mae'r tendon wedi ei wneud allan o ffibrau colagen wedi'u pacio'n dynn at ei gilydd. Colagen teip 1 sydd i'w weld amlaf, er y ceir teip a 111 a V ar adegau. Protinau eraill sy'n eu dal at ei gilydd. Ceir rhydweliau gwaed yn rhedeg yn gyfochrog â'r tendonnau, ond ni chredir fod nerfau mân ynddynt (ar wahan i'r peritendon). I godi pwysau, mae'n beth da cael tendonnau bach a chyhyr mawr; ond i redeg, mae tendon Achilles hir yn bwysicach na chyhyrau mawr. Mae maint y tendonnau'n gwahaniaethu'n fawr o berson i berson a'u hŷd yn cael eu pasio ymlaen drwy'r genynnau yn hytrach na thrwy ymarfer.
Yn ystod y ddegawd diwethaf, nid fel casgliad o gelloedd sy'n medru cyfangu'n unig yr edrychir arnynt. Bellach, ceir nifer o arbrofion sy'n gweld rhinwedd y 'sbring' ynddynt, sy'n golygu y gallent storio grym.