Opera sebon
Cyfres ddrama boblogaidd barhaol yw opera sebon, a ddarlledir ar y teledu neu'r radio.
Nodweddion y genre
[golygu | golygu cod]Fel arfer, mae opera sebon yn defnyddio naratif barhaus, hynny yw, fel bywyd go iawn, nid oes dechrau na diwedd i'r straeon. Mae'r cymeriadau'n byw eu bywydau hyd yn oed pan nad ydyn nhw ar y sgrin. Yn ogystal â hyn, defnyddir nifer o leoliadau i ieuo'r cymeriadau gwahanol ynghyd; yn y bôn, mae operâu sebon yn canolbwyntio ar y berthynas rhwng gwahanol bobl, ac mae elfen o realiti i'r lleoliadau a'r cymeriadau fel y gall y gynulleidfa uniaethu â'r hyn a ddangosir. Yn yr operâu sebon o wledydd Prydain yn enwedig, mae'r straeon yn tueddu i adlewyrchu bywyd go-iawn. Wrth wylio'r rhaglen, rhaid i'r gynulleidfa deimlo'n gyfforddus a dod i adnabod y cymeriadau, teimlo eu bod yn rhan o'r hyn sy'n digwydd. Wrth wneud hyn, mae'r gynulleidfa'n fwy tueddol o wylio'n rheolaidd. Gan fod nifer o straeon gwahanol ym mhob pennod sy'n tueddu i ddatblygu'n gyflym, rhaid gwylio pob pennod er mwyn dilyn y rhaglen yn iawn. Wrth i un bennod ddod i ben, mae bob amser cwestiynau'n cael eu gadael tan y bennod nesaf. Eto, wrth wneud hyn, mae'r gwylwyr yn teimlo bod yn rhaid gwylio eto er mwyn cael gwybod beth sy'n digwydd i'r cymeriadau.
Tarddiad yr enw
[golygu | golygu cod]Daw'r enw o'r ffaith bod rhan fywaf y rhaglenni cynnar yn yr Unol Daleithiau yn cael eu noddi gan gwmnïoedd a gynhyrchai nwyddau glanhau, fel sebon. Mae'r gair "opera" yn awgrym o'r straeon gafaelgar a geir yn y rhaglenni.
Hanes
[golygu | golygu cod]Dechreuodd yr operâu sebon cyntaf ar orsafoedd radio masnachol yn yr Unol Daleithiau yn y 1930au. Roedd gwrando, neu'n hwyrach, gwylio cyfres ddrama gyda straeon di-ddiwedd na fyddent byth yn dod i ben, yn chwyldro yn y frwydr i ddenu cynulleidfaoedd. Roedd y gynulleidfa darged wreiddiol, sef gwragedd tŷ, yn cael budd o ddianc o'u drefn ddyddiol i glywed hanesion am bobl y teimlent eu bod yn eu hadnabod. Wrth ddenu'r menywod hyn, yr un menywod a fyddai fel arfer yn penderfynu beth i'w brynu i'r cartref, a'u targedu gyda hysbysebion am nwyddau glanhau, crëewyd arf bwysig i'r gorsafoedd masnachol yn y frwydr dros gynyddu'r arian am slotiau hysbysebu a noddi.
Yn sgil llwyddiant rhaglenni o'r fath yn yr Unol Daleithiau, cafodd y fformat ei gopïo ym Mhrydain a darlledid nifer o gyfresi drama ar Radio'r BBC. Gan mai darlledwr cyhoeddus yw'r BBC a chanddo ethos o addysgu, yn enwedig yn y blynyddoedd cynnar wedi iddo gael ei sefydlu, manteisiwyd ar operâu sebon i drosglwyddo gwybodaeth i wrandawyr. Yn wir, byddai cymeriadau'n trafod sut i wneud y gorau o'r dognau bwyd y byddent yn eu cael gan y llywodraeth wedi'r Ail Ryfel Byd. Wedi i deledu dod yn fwyfwy poblogaidd ym Mhrydain, dechreuwyd darlledu operau sebon ar y cyfrwng hwnnw hefyd, gan lwyddo i ddenu cynulleidfaoedd mawr oherwydd y cymeriadau credadwy a'r straeon parhaus.