[go: up one dir, main page]

Neidio i'r cynnwys

Adam Brody

Oddi ar Wicipedia
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 08:23, 13 Medi 2009 gan Pwyll (sgwrs | cyfraniadau)
Adam Brody
GalwedigaethActor, cerddor

[[delwedd:|bawd|dde|Adam Brody, Medi 2005]] Mae Adam Jared Brody (ganed 15 Rhagfyr, 1979) yn actor teledu a ffilm Americanaidd ac yn gerddor rhan amser. Dechreuodd ei yrfa ar ddechrau'r 2000au, gan ymddangos ar Gilmore Girls a chyfresi eraill, cyn dod i amlygrwydd tra'n chwarae rhan Seth Cohen yn The O.C.. Mae ef hefyd wedi ymddangos mewn ffilmiau gan gynnwys Mr. & Mrs. Smith gyda Brad Pitt ac Angelina Jolie.

Bywgraffiad

Bywyd Cynnar

Ganwyd Brody yn Carlsbad, San Diego, Califfornia, yn fab hynaf i'w rieni Iddewig Valerie, artist graffig, a Mark Brody, cyfreithiwr. Mae ganddo ddau o efeilliaid yn frodyr, Sean a Matt. Mynychodd Brody "Wangenheim Middle School" a "Scripps Ranch High School", yn derbyn "graddau gwael", ac fe dyfodd lan yn San Diego, tra'n gwario llawer o'i amser yn syrffio. Mae e wedi dweud, er nad oedd e'n "Casanova", roedd ganddo "gariadon ciwt" a'i fod "bron a bod yn byw ar y traeth". Mynychodd Brody goleg cymunedol am flwyddyn cyn gadael yn un deg naw mlwydd oed, gan symud i Hollywood er mwyn dod yn actor. Yna cyflogodd hyfforddwr actio ac arwyddodd gytundeb gyda rheolwr.


Baner Unol Daleithiau AmericaEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am un o Unol Daleithiau America. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.