Wreter
Mae'r wreterau yn diwbiau wedi'u gwneud o ffibrau cyhyrau llyfn sy'n danfon wrin o'r arennau i'r bledren wrinol. Mewn oedolyn, fel arfer mae'r wreterau tua 25–30 cm (10-12 modfedd) o hyd ac oddeutu 3–4 mm (0.12-0.16 modfedd) o ddiamedr. Mae'r wreter yn cael ei linellu gan yr wrotheliwm, math o epitheliwm trosiannol, ac mae ganddo haen cyhyrau llyfn ychwanegol yn y traean mwy distal i gynorthwyo gyda pheristalsis (gwasgu ac ymlacio anwirfoddol y tiwbiau sy'n gwthio eu cynnwys ymlaen).
Enghraifft o'r canlynol | math o organ, dosbarth o endidau anatomegol |
---|---|
Math | organ wrinol, organ gyda cheudod organ, endid anatomegol arbennig |
Rhan o | system wrin, llwybr wrinol uchaf |
Cysylltir gyda | renal pelvis, pledren |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |