Malteg
Malteg yw iaith genedlaethol Malta ac yn un o ddwy iaith swyddogol yr ynys (Saesneg yw'r llall). Mae'n un o ieithoedd swyddogol yr Undeb Ewropeaidd. Mae ganddi ryw 371,900 o siaradwyr. Malteg yw'r unig iaith Semitaidd sy'n cael ei hysgrifennu o'r chwith i'r dde ac sy'n defnyddio'r wyddor Rufeinig. Mae tua 60% o eirfa'r iaith yn Semitaidd, gyda'r gweddill at ei gilydd yn dod o ieithoedd Romawns ac Eidaleg Sicilia yn bennaf. Daw'r rhan fwyaf o'r eirfa "sylfaenol" o wreiddiau Semitaidd, ac mae'r geiriau sy'n ymwneud â llywodraeth a dysg yn dod o Eidaleg Sicilia e.e. dar yw "tŷ", ond skola yw "ysgol". Mae wedi benthyg nifer o eiriau o'r Saesneg sy'n ymwneud â byd gwaith e.e. strajk ("streic"), union, leave a bonus.
Enghraifft o'r canlynol | iaith naturiol, iaith fyw |
---|---|
Math | Sicilian Arabic, Ieithoedd De Ewrop |
Label brodorol | Malti |
Yn cynnwys | Żejtun dialect, Qormi dialect, Maltralian |
Rhagflaenydd | Siculo-Arabic |
Enw brodorol | Malti |
Nifer y siaradwyr | |
cod ISO 639-1 | mt |
cod ISO 639-2 | mlt |
cod ISO 639-3 | mlt |
Gwladwriaeth | Malta, Canada, Unol Daleithiau America, Awstralia, y Deyrnas Unedig |
System ysgrifennu | yr wyddor Ladin |
Corff rheoleiddio | National Council for the Maltese Language |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Mae llawer yn ystyried Malteg fel tafodiaith o Arabeg ond mae Malteg yn agos iawn i Aramaeg. Mae hi'n debyg mai Malteg yw'r iaith fodern agosaf i'r iaith roedd Iesu Grist yn ei siarad.
Y ddogfen hynaf mewn Malteg yw "Il Cantilena", cerdd o'r 15g a luniwyd gan Pietro Caxaro. Am ganrifoedd, iaith lafar yn unig oedd Malteg, gydag Arabeg yn gwasanaethu fel iaith lenyddol, ac yn ddiweddarach, Eidaleg. Eidaleg oedd yr iaith swyddogol ar yr ynys tan 1936 pan ddaeth Malteg a Saesneg yn swyddogol.
Ymadroddion cyffredin
golygu- Bonġu! : Bore/P'nawn da! (cynaniad; bonjw)
- Bonswa! : Noswaith dda!
- Il-lejl it-tajjeb! : Nos da! (cynaniad; il-leil it-taieb)
- Saħħa! : Da boch chi!
- Ċaw! : Hwyl (fawr)! (cynaniad; shâw)
- Skużi! : Esgusodwch fi!
- Skużani! : Mae'n flin gen i!
- Jekk jogħġbok! : Os gwelwch chi'n dda! (cynaniad; iec iôjboc)
- Grazzi (ħafna)! : Diolch (yn fawr)! (cynaniad; gratsi haffna)
- Iva : ie/oes/do etc.
- Le : na
Dolenni allanol
golygu- (Saesneg) Maltese verbal morphology Archifwyd 2006-12-15 yn y Peiriant Wayback (PDF)
- L-Akkademja tal-Malti Archifwyd 2018-08-07 yn y Peiriant Wayback
- Il-Kunsill Nazzjonali ta' l-Ilsien Malti Archifwyd 2017-10-04 yn y Peiriant Wayback
- (Saesneg) Maltese English Archifwyd 2006-06-26 yn y Peiriant Wayback
- ↑ 1.0 1.1 (yn en) Ethnologue (25, 19 ed.), Dallas: SIL International, ISSN 1946-9675, OCLC 43349556, Wikidata Q14790, https://www.ethnologue.com/