Summer of Love
Adnoddau Dysgu | |
Rhestr o adnoddau dysgu ar gyfer y pwnc yma | |
---|---|
CBAC | |
Diwylliant Poblogaidd, c.1951-1979 | |
Adolygwyd testun yr erthygl hon gan arbenigwyr pwnc ac mae'n addas i'w ddefnyddio mewn addysg |
Ymestynnodd Haf Cariad neu The Summer of Love dros gyfnod haf 1967 pan ddaeth tua 100,000 o bobl ifanc, yn bennaf hipis o ran eu gwisg a’u hymddygiad, i ardal Haight-Asbury yn San Francisco.[1][2]
Roedd hwn yn fath o arbrawf cymdeithasol lle gwnaeth pobl a oedd yn credu mewn gwerthoedd hipi ddod at ei gilydd i ddathlu ac i rannu eu gwerthoedd. Roedd y gwerthoedd a’r daliadau hyn yn golygu byw bywyd yr hipi gan wrando ar gerddoriaeth hipi, defnyddio cyffuriau, coleddu agwedd gwrth-ryfel a chredu mewn cariad rhydd. Roedd yn ffordd o fyw a oedd yn boblogaidd o arfordir gorllewinol America draw hyd at Efrog Newydd.[3]
Roedd "Plant y Blodau", fel roedd hipis yn cael eu hadnabod hefyd, yn ddrwgdybus o’r Llywodraeth, ac wedi colli ffydd yn yr awdurdodau a ffordd o fyw eu rhieni, a oedd yn cael eu gweld fel rhan o’r drefn draddodiadol. Roeddent yn gwrthod gwerthoedd materol cymdeithas modern ac yn feirniadol o ymyrraeth yr Unol Daleithiau yn Rhyfel Fietnam. Ymddiddorai eraill mewn cerddoriaeth, arlunio, llenyddiaeth a barddoniaeth neu mewn crefyddau ac arferion gwahanol.
Diwylliant San Francisco
[golygu | golygu cod]Roedd awduron a oedd yn perthyn i Genhedlaeth Beat y 1950au wedi bod yn allweddol o ran helpu i greu’r diwylliant a arweiniodd at Haf Cariad 1967. Roedd awduron a beirdd fel Alan Ginsberg a Jack Kerouak wedi ysgrifennu am eu hanfodlonrwydd ag agweddau eu rhieni, gan ymosod ar fywyd diogel y genhedlaeth honno. Roedd hipis 1967 yn pwysleisio gwerthoedd fel rhannu a phwysigrwydd y gymuned.[4] Cafodd Siop Rhad ac am Ddim ei sefydlu gan y ‘Diggers’ a darparwyd triniaeth feddygol am ddim mewn Clinig Rhad ac am Ddim.[5]
Pobl ifanc yn cyrraedd
[golygu | golygu cod]Yn ystod gwanwyn 1967 dechreuodd nifer cynyddol o fyfyrwyr ysgolion uwchradd a cholegau gyrraedd ardal Haight-Ashbury yn San Francisco. Mewn ymdrech i rwystro rhagor o bobl ifanc rhag dod i’r ardal ar ôl i’r ysgolion gau am yr haf, cyhoeddodd y swyddogion lleol bod angen lleihau’r mewnlifiad. Cyhoeddwyd erthyglau mewn papurau lleol yn amlygu bod nifer cynyddol o hipis yn dod i mewn i’r ardal, ac mewn ymateb i’r datblygiadau hyn ffurfiwyd Cyngor gan drigolion Haight-Ashbury, sef Cyngor Haf Cariad, a roddodd yr enw i’r digwyddiad.
Denodd Haf Cariad 1967 sylw'r cyfryngau a’r wasg ar draws America a’r byd. Bu’r cyfryngau yn tynnu sylw at ddigwyddiadau eraill yng Nghaliffornia a oedd yn rhan o ddigwyddiadau Haf Cariad 1967, fel "Fantasy Fair and Magic", "Mountain Music Festival", "Monterey Pop Festival", y naill a'r llall wedi eu cynnal ym Mehefin 1967. Denodd Monterey tua 30,000 o bobl ar ddiwrnod cyntaf yr ŵyl gerddorol, gyda’r niferoedd yn cynyddu i 60,000 ar y diwrnod olaf.[6]
Ar ddiwedd y 1960au dechreuwyd cynnal gwyliau awyr agored mawr, di-dâl, lle gallai cynulleidfaoedd wrando ar amrywiaeth eang o berfformiadau cerddorol gan rai o fandiau ac artistiaid mwyaf poblogaidd y cyfnod, fel rhan o symudiad yr hipis yn yr 1960au. Roedd digwyddiadau fel y Monterey Pop Festival yn 1967 a’r "Woodstock Music and Art Fair" yn 1969 wedi dod â’r gwyliau awyr agored hyn i’r amlwg i bobl Unol Daleithiau America ac i weddill y byd.[7] Bu darllediadau'r wasg o Ŵyl Bop Monterey yn ffordd bwysig o boblogeiddio digwyddiadau Haf Cariad 1967 wrth i nifer uchel o hipis deithio i Califfornia i glywed bandiau fel The Who, Grateful Dead, The Animals, The Jimi Hendrix Experience, Otis Redding, The Byrds a Janis Joplin yn canu.[8]
Problemau
[golygu | golygu cod]Denodd Haf Cariad 1967 i ardal Haight-Ashbury yn San Francisco, i Berkeley a dinasoedd eraill yn Ardal Bae San Francisco, gymaint â 100,000 o bobl ifanc o bob rhan o'r byd i ymuno mewn dathliad o wahanol fathau ac agweddau ar hipïaeth. Methodd ardal Haight-Ashbury ymdopi â’r niferoedd enfawr a gyrhaeddodd yr ardal, gyda phroblemau fel gor-boblogi, digartrefedd, tlodi, cyffuriau a chynnydd mewn tor-cyfraith yn effeithio’n ddirfawr ar fywyd y trigolion lleol. Roedd defnyddio cyffuriau seicedelig yn gyffredin iawn. Gwelwyd cyffuriau fel LSD fel ffordd o chwilio am ffyrdd newydd o arbrofi, ac fel ffordd newydd o fynegi a dod yn ymwybodol o fodolaeth yr unigolyn. Roedd arbrofi gyda chyffuriau yn cael ei weld fel rhan o ddatblygiad personol unigolyn.[9]
Gwyliau awyr agored ym Mhrydain
[golygu | golygu cod]Gwnaethpwyd sawl ymgais nodedig i gynnal gwyliau am ddim yn y Deyrnas Unedig hefyd. Cynhaliodd The Rolling Stones gyngerdd awyr agored am ddim i 250,000 o gefnogwyr yn Hyde Park, Llundain, ym mis Gorffennaf 1969 – hon oedd y sioe gyntaf gyda’r gitarydd newydd Mick Taylor, ac fe wnaeth y prif ganwr Mick Jagger ddarllen rhywfaint o farddoniaeth a rhyddhau gloÿnnod byw gwyn er cof am gyn-aelod o’r band, Brian Jones, a fu farw ychydig ddiwrnodau ynghynt.
Dechreuodd Gŵyl Ynys Wyth yn 1968, ac erbyn mis Awst 1970 cafwyd cynulleidfa o 600,000 o bobl yno; roedd y digwyddiad yn cynnwys dros hanner cant o berfformiadau cerddorol gan bobl fel The Who, Jimi Hendrix a The Doors.
Aeth 1,500 o bobl i'r Pilton Pop, Blues and Folk Festival yn 1970 i weld y band Tyrannosaurus Rex (T-Rex yn ddiweddarach) yn cloi'r noson. Newidiwyd enw’r digwyddiad hwn i Glastonbury Fayre yn 1971, a David Bowie oedd un o’r prif artistiaid y flwyddyn honno.[7]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ E. Vulliamy, "Love and Haight", Observer Music Monthly, 20 Mai 2007
- ↑ Imagine Nation: The American Counterculture of the 1960s and '70s, gol. P. Braunstein ac M. Doyle (Efrog Newydd, 2002), t.7
- ↑ Imagine Nation, gol. Braunstein a Doyle, t.7
- ↑ "Counterculture". Smith.edu (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 16 Awst 2017. Cyrchwyd 16 Awst 2017.
- ↑ America Divided: The Civil War of the 1960s, gol. M. Isserman a M. Kazin (Oxford University Press, 2004), tt.151–172
- ↑ T. Anderson, The Movement and the Sixties: Protest in America from Greensboro to Wounded Knee (Oxford University Press, 1995), t.175
- ↑ 7.0 7.1 "Diwylliant poblogaidd" (PDF). CBAC. Cyrchwyd 15 Mehefin 2020.
- ↑ T. Gitlin, The Sixties: Years of Hope, Days of Rage (Efrog Newydd, 1993), tt.215–17
- ↑ J. McDonald wedi'i dyfynnu yn E. Vulliamy, "Love and Haight", Observer Music Monthly, 20 Mai 2007