Epistemoleg
Gwedd
Enghraifft o'r canlynol | un o ganghennau athroniaeth |
---|---|
Math | athroniaeth |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Y gangen o athroniaeth sy'n ymwneud â natur gwybodaeth, a't berthynas rhwng gwybodaeth a gwirionedd yw epistemoleg[1] (o'r Groeg επιστήμη - episteme, "gwybodaeth" + λόγος, "logos"), epistemeg[1][2] neu gwybodeg.[1][3] Mae'n delio â chwestiynau fel "Beth yw gwybodaeth?", "Sut mae cael gwybodaeth?", a "Beth mae pobl yn ei wybod?"
Er enghraifft, yn un o ddialogau Platon, Theaetetus, mae Socrates yn ystyried nifer o syniadau ynghylch natur gwybodaeth. Yr olaf yw fod gwybodaeth yn gred wir y gellir rhoi cyfrif amdani; hynny yw, i feddu gwybodaeth, mae'n rhaid i berson nid yn unig gredu rhywbeth sy'n wir ond hefyd feddu ar reswm da dros gredu hynny.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 1.2 Geiriadur yr Academi, [epistemology].
- ↑ epistemeg. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 28 Hydref 2015.
- ↑ gwybodeg. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 28 Hydref 2015.