[go: up one dir, main page]

Neidio i'r cynnwys

Michelangelo

Oddi ar Wicipedia
Michelangelo
GanwydMichelangelo di Lodovico Buonarroti Simoni Edit this on Wikidata
6 Mawrth 1475 Edit this on Wikidata
Caprese Michelangelo Edit this on Wikidata
Bu farw18 Chwefror 1564 Edit this on Wikidata
Rhufain Edit this on Wikidata
DinasyddiaethGweriniaeth Fflorens Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Prifysgol Fflorens Edit this on Wikidata
Galwedigaethcerflunydd, drafftsmon, arlunydd, pensaer, bardd, peiriannydd, general contractor, llenor, artist Edit this on Wikidata
Adnabyddus amDafydd, Pietà, Y Caethwas ar Farw, Y Farn Olaf, Tondo Doni, Madonna della Scala, Brwydr y Dynfeirch, Ysbryd Buddugoliaeth, Pietà Fflorens, Pietà Rondanini, nenfwd y Cappella Sistina, Y Caethwas Anufudd, Sant Mathew, Capeli'r Medici, Bacchus, Brutus, Basilica Sant Pedr, Y Caethweision, Biblioteca Medicea Laurenziana Edit this on Wikidata
Arddullcelf Gristnogol, homoerotiaeth Edit this on Wikidata
Mudiadyr Uchel Ddadeni, paentio'r Dadeni Edit this on Wikidata
TadLodovico di Leonardo Buonarroti Simoni Edit this on Wikidata
MamFrancesca di Neri del Miniato Siena Edit this on Wikidata
PartnerTommaso dei Cavalieri Edit this on Wikidata
PerthnasauMichelangelo Buonarroti Edit this on Wikidata
Llinachteulu Buonarroti Edit this on Wikidata
llofnod

Roedd Michelangelo di Lodovico Buonarroti (6 Mawrth 147518 Chwefror 1564), a elwir yn Michelangelo, yn gerflunydd, peintiwr, pensaer a bardd o gyfnod y Dadeni Eidalaidd. Ynghyd â'i gyfoediwr a'i gyd-ddyn o Fflorens, Leonardo da Vinci, caiff Michelangelo ei ystyried fel un o "wŷr y Dadeni", dynion a all droi eu dwylo at unrhyw faes a'i feistroli'n llwyr.

Fe'i ganwyd yn Caprese, ger Arezzo yn yr Eidal, yn fab i'r banciwr Ludovico di Leonardo di Buonarotto Simoni a'i wraig Francesca di Neri del Miniato di Siena.

Roedd yr athrylith hwn wedi cwblhau un o'i gampweithiau, y Pietà sydd heddiw ym Masilica Sant Pedr (San Pietro) yn Rhufain, cyn ei fod yn ddeg ar hugain oed, ac un arall, y cerflun o Dafydd, yn ei dri degau cynnar. Er gwaetha'r ffaith ei fod yn ystyried ei hun yn gerflunydd cyn pob dim, creodd Michelangelo hefyd ddau o'r peintiadau ffresgo mwyaf dylanwadol yn hanes celf ar nenfwd a wal ddwyreiniol y Cappella Sistina (hefyd yn Rhufain). Meistrolodd Michelangelo bensaernïaeth yn ei henaint a cynlluniodd gromen San Pietro yn 70 oed. Roedd effaith yr arlunydd ar bob un o'r maesydd yma yn chwyldroadol.

Yn wahanol i lawer o artistiaid cyn y Dadeni Dysg, cydnabwyd Michelangelo fel athrylith tra'r oedd yn dal yn fyw, ac fe'i galwyd yn Il Divino, "yr un dwyfol" (llysenw addas o ystyried ei fod yn ŵr crefyddol iawn). Cyhoeddwyd dau fywgraffiad ohono tra yn fyw, un gan Giorgio Vasari, cyfaill i Michelangelo, a'r llall gan Ascanio Condivi. Diolch i Vasari yn bennaf cafodd Michelangelo ei ystyried fel copa pob cyrhaeddiad yng nghelf am ganrifoedd wedi ei farwolaeth.

Pietà (Mair yn galaru dros gorff marw Crist), 1499–1500
Pietà (Mair yn galaru dros gorff marw Crist), 1499–1500 
Dafydd, 1501–1504
Dafydd, 1501–1504 
Duw yn creu Adda, o nenfwd y Cappella Sistina, 1508–1512
Duw yn creu Adda, o nenfwd y Cappella Sistina, 1508–1512 
Moses, o fedd Pâb Iŵl II, tua 1513–1515
Moses, o fedd Pâb Iŵl II, tua 1513–1515 
Baner yr EidalEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am un o'r Eidal. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.