[go: up one dir, main page]

Neidio i'r cynnwys

Adam Brody: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Eiri (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Llinell 29: Llinell 29:


===Bywyd Personnol===
===Bywyd Personnol===
Mae Brody yn byw yn Los Angeles. Roedd yn arfer mynd mas gyda’i gyd-actores Rachel Bilson, perthynas a barodd am dair mlynedd cyn gorffen yn Rhagfyr 2006. Roedd eu perthynas ar sgrîn ac i ffwrdd o’r sgrîn.

Mae Brody yn chwarae’r drymiau i’r band Big Japan gyda’r actor Bret Harrison. Mae’n ysgrifennu caneuon yn ystod ei amser sbar ac mae wedi ysgrifennu ynghyd â Danny Bilson (tad ei cyn-gariad Rachel Bilson) a Paul DiMeo, cyfres fechan o lyfr comic i Wildstorm Comics, a’i elwir yn Red Menace. Mae Brody hefyd wedi gwirfoddoli fel actor gyda’r Young Storytellers Program, sydd wedi ei bwrpasu i ddatblygu llythrennedd, hunanfynegiant a hunanhyder i blant ysgol gynradd.

Mae Brody wedi disgrifio ei hun i fod yn “ffug ddeallus” a’i synnwyr digrifwch fel coeglyd. Mae e’n Iddew seciwlar ac wedi dweud na all fod yn llai crefyddol. Mae Brody wedi dweud fod e wedi dod yn fwy “nerdy” ar ol symud i Hollywood.





Fersiwn yn ôl 14:55, 13 Medi 2009

Adam Brody
GalwedigaethActor, cerddor

Mae Adam Jared Brody (ganed 15 Rhagfyr, 1979) yn actor teledu a ffilm Americanaidd ac yn gerddor rhan amser. Dechreuodd ei yrfa ar ddechrau'r 2000au, gan ymddangos ar Gilmore Girls a chyfresi eraill, cyn dod i amlygrwydd tra'n chwarae rhan Seth Cohen yn The O.C.. Mae ef hefyd wedi ymddangos mewn ffilmiau gan gynnwys Mr. & Mrs. Smith gyda Brad Pitt ac Angelina Jolie.

Bywgraffiad

Bywyd Cynnar

Ganwyd Brody yn Carlsbad, San Diego, Califfornia, yn fab hynaf i'w rieni Iddewig Valerie, artist graffig, a Mark Brody, cyfreithiwr. Mae ganddo ddau o efeilliaid yn frodyr, Sean a Matt. Mynychodd Brody "Wangenheim Middle School" a "Scripps Ranch High School", yn derbyn "graddau gwael", ac fe dyfodd lan yn San Diego, tra'n gwario llawer o'i amser yn syrffio. Mae e wedi dweud, er nad oedd e'n "Casanova", roedd ganddo "gariadon ciwt" a'i fod "bron a bod yn byw ar y traeth". Mynychodd Brody goleg cymunedol am flwyddyn cyn gadael yn un deg naw mlwydd oed, gan symud i Hollywood er mwyn dod yn actor. Yna cyflogodd hyfforddwr actio ac arwyddodd gytundeb gyda rheolwr.


Gyrfa

Ar ôl blwyddyn o hyfforddiant a chlyweliadau, cafodd Brody rôl Barry Williams yn y ffilm deledu 2000 Growing Up Brady. Roedd yn ymddangos ar Gilmore Girls fel Dave Rygalski, a oedd yn yr un band ac yn gariad i Lane. Roedd hefyd ar y gyfres deledu gomedi Ganadaidd The Sausage Factory. Yn 2001, chwaraeodd rôl fechan yn American Pie 2, a gelwir ei gymeriad yn hwnnw yn “high school guy”. Roedd yn un o ddau o blant ysgol a oedd yn cael eu erlid o barti Steve Stifler. Yn 2003, ysgrifennodd “Home Security” (ffilm fer), ac fe ymddangosodd yn y brif ffilm Grind, a dechreuodd chwarae ei rôl fwyaf enwog hyd yn hyn, Seth Cohen, bachgen eithaf lletchwith a oedd yn ei arddegau, ar y gyfres deledu The O.C. Fe drodd y rôl hyn Brody yn seren i bobl yn eu harddegau, gyda’r cymeriad yn cael ei ddigrifio gan y Los Angeles Times fel “TV’s sexiest geek”. Fe achosodd y rôl i Brody gael llawer o ffans benywaidd ac fel canlyniad fe gafodd Brody ei roi yn safle 17 yn y “100 Sexiest men Alive” gan yr Indepenet Online, ac roedd ddwywaith wedi ei osod ar restr blynyddol “Teen People” o’r “25 Sexiest Stars under 25”. Fe hefyd oedd y dyn cyntaf ar glawr Elle Girl.

Dros gyfnod y sioe, ymddangosodd Brody ar y cyd â Angelina Jolie a Brad Pitt yn y ffilm Mr. & Mrs. Smith (2005), a chwaraeodd gynorthwy-ydd stiwdio yn addasiad o’r ffilm Thank You for Smoking (2006). Ennillodd Brody gontract saith mlynedd fel y cymeriad Seth Cohen yn The O.C, ble roedd yn chwarae cymeriad a oedd yn debyg iddo ef ei hun. Daeth y sioe i ben ym mis Chwefror 2007; dywedodd Brody nad oedd e’n gwbl anhapus fod y sioe yn dod i ben, ac er ei fod yn “ffodus” i fod ar gyfres lwyddiannus, roedd hefyd yn falch nad oedd arni am 10 mlynedd. Ar ol i The O.C ddod i ben, trodd Brody i yrfa llawn amser mewn ffilm. Ei rôl nesaf oedd y ffilm In The Land of Women, comedi rhamantus a oedd hefyd yn cynnwys Meg Ryan a Kristen Stewart, ac fe gafodd y ffilm ei rhyddhau ar Ebrill 20fed, 2007. Yn y ffilm, mae Brody yn chwarae y prif gymeriad, sef ysgrifennwr sy’n dychwelyd i gartref ei fam yn Michigan, er mwyn gofalu am ei nain sâl. Nid oedd yn rhaid i Brody gael clyweliad ar gyfer y rhan, ond roedd bron yn methu a chymeryd rhan yn y ffilm o achos fod y trefniadau ffilmio yn torri ar draws yr ail gyfres o The O.C; fe ail drefnodd y cyfarwyddwr yn ôl wyth mis am ei fod eisiau Brody fod yn y ffilm. Yn yr un flwyddyn, ymddangosodd Brody hefyd yn y ffilmiau â chyllideb llai fel Smiley Face, yn chwarae deliwr, ac yn Ten Ten, fel awyrblymiwr. Fe ymddangosodd hefyd yn y pennod “Crush” o Smallville.

Cafodd Brody, ynghyd a’r actor Zac Efron, ei ystyried fel y prif gymeriad yn y ffilm Speed Racer, rôl a gafodd ei roi i Emile Hirsch yn y diwedd. Roedd Brody hefyd yn bwriadu cynhyrchu ail wneuthuriad o’r ffilm Revenge of the Nerds, ond fe gafodd ei ganslo yn gynnar yn ystod y cyfnod ffilmio.

Ymddangosodd hefyd yn y fideo o’r gân “Too Bad About Your Girl” gan The Donnas. Mae e a Josh Lucas wedi arwyddo i’r ddrama Death in Love sy’n cael ei chyfarwyddo gan Boaz Yakin. Mae hefyd yn y ffilm arswyd Jennifer’s Body, yn actio ar y cyd gyda Megan Fox. Mae wedi gorffen ffilmio’r ffilm A Couple of Dicks, a gafodd ei ffilmio yn Efrog Newydd, hefyd yn y ffilm mae Bruce Willis a Tracy Morgan.

Bywyd Personnol

Mae Brody yn byw yn Los Angeles. Roedd yn arfer mynd mas gyda’i gyd-actores Rachel Bilson, perthynas a barodd am dair mlynedd cyn gorffen yn Rhagfyr 2006. Roedd eu perthynas ar sgrîn ac i ffwrdd o’r sgrîn.

Mae Brody yn chwarae’r drymiau i’r band Big Japan gyda’r actor Bret Harrison. Mae’n ysgrifennu caneuon yn ystod ei amser sbar ac mae wedi ysgrifennu ynghyd â Danny Bilson (tad ei cyn-gariad Rachel Bilson) a Paul DiMeo, cyfres fechan o lyfr comic i Wildstorm Comics, a’i elwir yn Red Menace. Mae Brody hefyd wedi gwirfoddoli fel actor gyda’r Young Storytellers Program, sydd wedi ei bwrpasu i ddatblygu llythrennedd, hunanfynegiant a hunanhyder i blant ysgol gynradd.

Mae Brody wedi disgrifio ei hun i fod yn “ffug ddeallus” a’i synnwyr digrifwch fel coeglyd. Mae e’n Iddew seciwlar ac wedi dweud na all fod yn llai crefyddol. Mae Brody wedi dweud fod e wedi dod yn fwy “nerdy” ar ol symud i Hollywood.




Baner Unol Daleithiau AmericaEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am un o Unol Daleithiau America. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.