rhoi
Cymraeg
Cynaniad
- /r̥ɔi̯/
Geirdarddiad
Ffrwyth cymysgedd o ddau wreiddyn ar wahân (rhoddaf + rhoddif):
- Cymraeg Canol roðy ‘rhoi (trosglwyddo)’ o'r Frythoneg *rroðọd o'r Gelteg *φro-dāti o'r gwreiddyn Indo-Ewropeg *deh₃- ‘rhoi (trosglwyddo)’ a welir hefyd yn y Lladin dare, y Lithwaneg dúoti, yr Hen Roeg dídōmi (δίδωμι) a'r Sansgrit dadāti (ददाति). Cymharer â'r Gernyweg r(e)i, y Llydaweg reiñ a'r Hen Wyddeleg do·rata (dib.) ‘bo wedi rhoi’.
- Cymraeg Canol rodif ‘rhoi (gosod)’ o'r Frythoneg *rroðid o'r Gelteg *φro-dīti o'r gwreiddyn Indo-Ewropeg *dʰeh₁- ‘rhoi (gosod)’ a welir hefyd yn y Lladin -dere, y Saesneg do, yr Hen Roeg títhēmi (τίθημι) a'r Sansgrit dadhāti (दधाति).
Berfenw
rhoi berf gyflawn ac anghyflawn (bôn y ferf: rhodd-, yn llenyddol rhoi-)
- Trosglwyddo gwrthrych i feddiant rhywun arall yn rhad ac am ddim.
- Amcangyfrif neu ddarogan (amser neu debygolrwydd rhywbeth).
- Byddaf yn rhoi deg munud iddo gyrraedd ac yna rwyn gadael.
- Gosod rhywbeth mewn man penodol.
- Roeddwn i wedi rhoi'r arian ar y ddesg.
Amrywiadau
Cyfystyron
Termau cysylltiedig
Cyfieithiadau
|
|