Wilhelm Conrad Röntgen
Ffisegydd o'r Almaen oedd Wilhelm Conrad Röntgen neu William Conrad Roentgen (27 Mawrth 1845 – 10 Chwefror 1923). Mae'n enwog am ei ddyfais a gynhyrchodd a ddatgelodd am y tro cyntaf, ar 8 Tachwedd 1895, belydrau electromagnetig gyda ystod tonfeddi a elwir yn "Belydrau-X" yn ôl y drefn mathemategol am newidyn anhysbys. Am y gwaith hwn, enillodd wobr newydd sbon, sef Gwobr Ffiseg Nobel, yn 1901.[1]
Wilhelm Conrad Röntgen | |
---|---|
Ganwyd | 27 Mawrth 1845 Lennep |
Bu farw | 10 Chwefror 1923 München |
Man preswyl | Apeldoorn, Zürich, Würzburg, München, Utrecht |
Dinasyddiaeth | Gweriniaeth Weimar, Ymerodraeth yr Almaen, Teyrnas Prwsia |
Addysg | Doctor of Sciences |
Alma mater |
|
ymgynghorydd y doethor | |
Galwedigaeth | ffisegydd, athro cadeiriol, peiriannydd, ymchwilydd |
Swydd | athro cadeiriol |
Cyflogwr |
|
Adnabyddus am | Pelydr-X |
Priod | Bertha Röntgen |
Gwobr/au | Gwobr Ffiseg Nobel, Urdd Teilyngdod am Wyddoniaeth a Chelf, Gwobr Elliott Cresson, Medal Helmholtz, Medal Rumford, Medal Matteucci, Urdd Maximilian Bafaria am Wyddoniaeth a Chelf, dinasyddiaeth anrhydeddus, Barnard Medal for Meritorious Service to Science, 2nd Class Order of the Crown, Iron Cross on white ribbon, Luitpold Medal of Bavaria, Urdd Sant Mihangel, Cadlywydd Urdd Coron yr Eidal, Urdd Teilyngdod Coron Bafaria |
llofnod | |
Enwir y 111fed elfen gemegol "Roentgeniwm", elfed hynod o ymbelydrol a gyda sawl isotop ansefydlog, ar ei ôl.
Cefndir
golyguYn 1865, ceisiodd gael mynediad i Brifysgol Utrecht, ond yn ofer; safodd arholiadau mynediad sefydliad ffederal Polytechnig Zürich (ETH heddiw) a llwyddodd. Graddiodd gyda doethuriaeth (PhD) mewn athroniaeth. Roedd yn ffefryn gan yr Athro August Kundt, a dilynodd ef i Brifysgol Strassburg yn 1873.[2]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Novelline, Robert. Squire's Fundamentals of Radiology. Harvard University Press. 5ed cyfrol. 1997. ISBN 0-674-83339-2 p. 1.
- ↑ Trevert, Edward (1988). Something About X-Rays for Everybody. Madison, WI: Medical Physics Publishing Corporation. t. 4. ISBN 0-944838-05-7.