Via Appia
Ffordd Rufeinig yn cysylltu dinas Rhufain a Brindisium (Brindisi heddiw) yn Apulia yn ne-ddwyrain yr Eidal yw'r Via Appia. Gyda'r Via Latina, y Via Flaminia a'r Via Salaria, roedd yn un o'r ffyrdd pwysicaf oedd yn cysylltu'r brifddinas a'r gweddill o'r ymerodraeth.
Math | stryd, ffordd Rufeinig |
---|---|
Enwyd ar ôl | Appius Claudius Caecus |
Sefydlwyd |
|
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Via Appia. Regina Viarum |
Gwlad | yr Eidal |
Cyfesurynnau | 41.841389°N 12.5325°E |
Statws treftadaeth | Tentative World Heritage Site, Safle Treftadaeth y Byd |
Sefydlwydwyd gan | Appius Claudius Caecus |
Manylion | |
Dechreuwyd adeiladu'r Via Appia yn 312 CC gan Appius Claudius Caecus, a chafodd ei henwi ar ei ôl ef. Yn wreiddiol, roedd y ffordd o Rufain i Capua, ond yn ddiweddarach ymestynnwyd hi i Brindisium.
Gelwid y ffordd yn regina viarum (brenhines y ffyrdd) oherwydd ei phwysigrwydd. Mae'r ffordd yn dal i'w gweld yn Rhufain, lle gelwir hi y Via Appia Antica, yn arwain trwy'r Parco Appia Antica ac allan o'r Porta San Sebastiano, gynt y Porta Appia. Yn 71 CC, wedi gorchfygu byddin Spartacus, croeshoeliodd Marcus Licinius Crassus 6,000 o garcharorion ar hyd y Via Appia. Yn rhywle ar y ffordd yma tu allan i Rufain, yn ôl traddodiad, y cyfarfu'r Apostol Pedr, oedd yn ffoi o'r ddinas, a Iesu Grist. Holodd Pedr, Domine Quo Vadis? ("Arglwydd, i ble rwyt ti'n mynd?"), a chafodd yr ateb "I Rufain, i'm croesheolio yn dy le di". Dychwelodd Pedr i Rufain, lle croeshoeliwyd ef. Gerllaw mae Catacombau Sant Callixtus.
Mae'r rhan o'r ffordd sydd wedi ei chadw orau tua 2.1 km tu allan i fur y ddinas.