[go: up one dir, main page]

Iaith artiffisial wedi'i seilio ar fersiwn eithafol bur o Islandeg fodern yw Uchel Islandeg (Háfrónska). Fe’i henwyd ar ôl "høgnorsk" (Uchel Norwyeg), ffurf geidwadol o’r Norwyeg. Deillia "frónska" o’r gair "fron", yr enw barddonol am Wlad yr Iâ, un o’r enwau am yr ynys a grybwyllir yn yr Edda. Yn Uchel Islandeg mae pwyslais ar “málgjörhreinsun” (purdeb eithafol), y ffurf fwyaf eithafol o burdeb ieithyddol. Pétur Þorsteinsson yw cadeirydd mudiad iaith Uchel Islandeg. Nid oes gan yr iaith unrhyw statws swyddogol yng Ngwlad yr Iâ, ac nid oes ganddi ddim siaradwyr rhugl.

Uchel Islandeg
Enghraifft o'r canlynolIaith artiffisial Edit this on Wikidata
Dechrau/SefydluTachwedd 2003 Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Darlun bropaganda Uchel Islandeg: Ynyswyr yr Iâ, rhywogaeth puro iaith

Dolenni allanol

golygu
  Eginyn erthygl sydd uchod am iaith. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.