[go: up one dir, main page]

Dinas ar arfordir de-orllewin y Ffindir ar aber Afon Aura yw Turku (Ffinneg: [ˈturku], Swedeg: Åbo [ˈoːbu]). Gwladychwyd y dref yn ystod y 13eg ganrif a sefydlwyd hi ar ddiwedd y ganrif honno, sy'n golygu mai dinas hynaf y Ffindir yw hi. Daeth yn ddinas bwysicaf y wlad, a bu felly am ganrifoedd. Ar ôl i'r Ffindir ddod yn rhan o Ymerodraeth Rwsia ym 1809, symudwyd prifddinas Uchel Ddugiaeth y Ffindir i Helsinki ym 1812, ond Turku oedd y ddinas fwyaf poblog yn y Ffindir tan ddiwedd y 1840au. Mae'n dal yn brifddinas ranbarthol ac yn ganolbwynt busnes a diwylliant.

Turku
Mathbwrdeistref y Ffindir, dinas Edit this on Wikidata
Poblogaeth202,250 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1229 Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraethMinna Arve Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC+2, UTC+03:00 Edit this on Wikidata
Gefeilldref/i
Fflorens, Varna, Cwlen, Bratislava, Gdańsk, Rostock, Bwrdeistref Göteborg, Aarhus, Constanța, Szeged, Tartu, Bergen, Kharkiv Edit this on Wikidata
Iaith/Ieithoedd
  swyddogol
Ffinneg, Swedeg Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirSouthwest Finland Edit this on Wikidata
GwladBaner Y Ffindir Y Ffindir
Arwynebedd245.63 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr0 metr Edit this on Wikidata
GerllawAfon Aura, Archipelago Sea Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaPargas, Aura, Pöytyä, Mynämäki, Nousiainen, Rusko, Kaarina, Lieto, Raisio, Naantali Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau60.4517°N 22.2669°E Edit this on Wikidata
Cod post20000–20960 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Corff gweithredolTurku city board Edit this on Wikidata
Corff deddfwriaetholCyngor Dinas Turku Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y Llywodraeth
Mayor of Turku Edit this on Wikidata
Pennaeth y LlywodraethMinna Arve Edit this on Wikidata
Map
Turku yn yr hydref

Mae'r enw Ffinneg Turku yn deillio o air Hen Slafeg Dwyreiniol tǔrgǔ, sy'n golygu "marchnad".[1] Mae'r gair turku yn dal i olygu "marchnad" mewn rhai idiomau yn y Ffinneg. Torg yw'r gair Swedeg am farchnad ac mae'n debyg iddo gael ei fenthyg o Hen Slafeg Dwyreiniol, ond roedd eisoes yn cael ei ddefnyddio yn Hen Swedeg.[2]

Mae'r enw Swedeg Åbo i'w weld yn hawdd ei esbonio, oherwydd iddo gynnwys y geiriau å ("afon") a bo ("nyth, annedd") a allai olygu rhyweth tebyg i "dŷ'r afon". Er hynny, mae geirdarddwyr yn credu bod yr esboniad hwn yn anghywir gan mai hen enw yw ef ac nad oes dim enwau tebyg eraill.[3] Ceir hen derm cyfreithiol o'r enw åborätt (sy'n golygu "hawl i fyw yn"), a oedd yn rhoi'r hawl etifeddadwy i ddinasyddion ("åbo") i fyw ar dir a oedd yn perthyn i'r goron.[4]

Awgrymwyd hefyd fod yr enw Ffinneg Turku yn cyfeirio at y farchnad yn wreiddiol ond bod yr enw Swedeg Åbo yn cyfeirio at y castell.

Yn Ffinneg, Turun yw cyflwr genidol Turku, felly mae llawer of enwau Ffineg ar sefydliadau Turku yn dechrau gyda'r gair hwn, er enghraifft, Turun yliopisto am Brifysgol Turku.

Gefeilldrefi

golygu

Gefeilliwyd Turku â:

Mae gan Turku gytundebau cydweithredu â'r dinasoedd hyn:

Cyfeiriadau

golygu
  1. "Keskiaika - Suomen kaupungit keskiajalla". Katajala.net. Cyrchwyd 2011-09-16.
  2. "Svenska Akademiens ordbok - SAOB". Svenska Akademien. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-06-17. Cyrchwyd 2011-12-13.
  3. "Åbo | Orter, hus och historia i Svenskfinland". svenska.yle.fi. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-10-01. Cyrchwyd 2011-09-16.
  4. http://sv.wikipedia.org/wiki/Åborätt
  5. "Gdańsk Official Website: 'Miasta partnerskie'" (yn Polish & English). © 2009 Urząd Miejski w Gdańsku. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-07-23. Cyrchwyd 2009-07-11. External link in |publisher= (help)CS1 maint: unrecognized language (link)
  6. "Bratislava City - Twin Towns". © 2003-2008 Bratislava-City.sk. Cyrchwyd 2008-10-26.
  Eginyn erthygl sydd uchod am y Ffindir. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.