Theo Bos
Seiclwr trac o'r Iseldiroedd ydy Theo Bos (ganwyd 22 Awst 1983 yn Hierden, Yr Iseldiroedd), mae'n enillydd medal arian yn y Gemau Olympaidd ac yn bencampwr y byd pum gwaith.
Theo Bos | |
---|---|
Ganwyd | 22 Awst 1983 Hierden |
Dinasyddiaeth | Brenhiniaeth yr Iseldiroedd |
Galwedigaeth | seiclwr cystadleuol, seiclwr trac, sglefriwr cyflymder |
Taldra | 190 centimetr |
Pwysau | 77 cilogram |
Gwefan | http://www.theobosofficial.com/ |
Chwaraeon | |
Tîm/au | Dimension Data, Lotto NL-Jumbo, Cervélo Test, Rabobank Development |
Gwlad chwaraeon | Yr Iseldiroedd |
Enillodd y fedal arian yn sbrint Gemau Olympaidd 2004.
Enillodd y fedal aur yn y sbrint a'r treial amser 1 km (neu kilo) ym Mhencampwriaethau Trac y Byd, UCI 2004. Y flwyddyn canlynol, enillodd y fedal aur yn y pursuit unigol, a medal arian ym Mhencampwriaethau Trac y Byd, UCI 2005.
Ym Mhencampwriaethau Trac y Byd, UCI 2006, enillodd y fedal aur yn y ras keirin, gan gyflawni "Coron Drifflig" o fuddugoliaethau (gan iddo fod yn Bencampwr y Byd yn sbrint, kilo a keirin). Enillodd y ras y argyhoeddiadol ar ôl cyflynmu â dau lap i fynd, a chwythu'r cystadlwyr eraill i ffwrdd, gan ennill â bwlch llydan rhynddo ef a'i gystadleuwyr a chael digon o amser i godi ei ddwylo i chwifio at y dorf wrth groesi'r linell. [1] Disgrifiodd ei cyd-gystadlwr Ffrangeg, ac enillydd y fedal efydd, Arnaud Tournant, berfformiad Bos fel "yr un gorau iddo weld ers amser maith" (Saesneg: "the best I’ve seen in a very long time.") Ail-enillodd ei deitl sbrint hefyd.
Ar 16 Rhagfyr, 2006, torodd Bos record seiclo trac y byd 200 metr, yn ystod cymalau ymgymhwyso sbrint Cypan y Byd yn Moscow. Clociodd Bos amser o 9.772 eiliad (ar ôl i nam cyfrifiadurol roi amser annhebygol o 9.086 eiliad iddo), a curodd y record a ddelwyd gan Ganadiwr, Curt Harnett am 11 mlynedd gynt. Yn dilyn hyd, datganodd Bos mai'r 200 m Following his record setting run Bos declared the 200 m oedd y "record eithafaf" ar gyfer seiclwyr trac. [2] Archifwyd 2007-09-07 yn y Peiriant Wayback Pum diwrnod yn ddiweddarach, anrhydeddwyd Bos â gwobr Chwaraewr y Flwyddyn, yr Iseldireoedd.
Mae ei frawd Jan Bos, hefyd yn seiclwr trac ond yn bennaf mae'n sglefriwr cyflymder.
Canlyniadau
golygu- Pencampwriaethau Trac y Byd, UCI
- Treial Amser 1 km: 2003 (3ydd), 2005 (1af)
- Treial Amser (Iau) 1 km: 2001 (1af)
- Keirin: 2006 (1af), 2007 (2il)
- Sbrint: 2004 (1af), 2006 (1af), 2007 (1af)
- Pursuit Tîm: 2004 (2il), 2005 (1af)
- Sbrint Tîm: 2005 (2il)
- Gemau Olympaidd
- Sbrint: 2004 (2il)
- Clasuron Trac, Cwpan y Byd, UCI
- Cymal Los Angeles, Treial Amser 1 km: 2005 (1af)
- Cymal Los Angeles, Sbrint Tîm: 2005 (1af)
- Cymal Manceinion, Treial Amser 1 km: 2004 (2il)
- Cymal Manceinion, Sbrint: 2005 (1af)
- Cymal Manceinion, Sbrint Tîm: 2005 (2il)
- Cymal Moscow, Sbrint Tîm: 2004 (2il), 2006 (2il)
- Cymal Moscow, Treial Amser 1 km: 2003 (2il), 2004 (1af)
- Cymal Moscow, Sbrint: 2004 (3rd), 2006 (1af)
- Cymal Sydney, Keirin: 2005 (1af), 2006-1 (1af), 2006-2 (1af)
- Cymal Sydney, Sbrint: 2005 (1af)
- Cymal Sydney, Sbrint Tîm: 2006-1 (1af), 2006 (2il)
- Pencampwriaethau Trac Ewrop
- Treial Amser 1 km (Odan 23): 2002 (2il), 2003 (1af)
- Keirin (Odan 23): 2002 (1af), 2003 (2il)
- Sbrint (Odan 23): 2002 (2il), 2003 (1af)
- Pencampwriaethau Cenedlaethol Trac yr Iseldiroedd
- Treial Amser 1 km: 2003 (1af)
- Keirin: 2004 (1af), 2006 (1af)
- Sbrint: 2003 (1af), 2004 (1af), 2006 (1af)
- Eraill
- Masters of Sbrint: 2007 (1af)
- Rotterdam Sbrint Cup: 2007 (1af)
- Dernyrace Wierden: 2006 (3rd)
Rhagflaenydd: Yuri van Gelder |
Chwaraewr y Flwyddyn, yr Iseldireoedd 2006 |
Olynydd: I ddod |
Dolenni allanol
golygu- Gwefan Swyddogol (Iseldireg)