Sebw
Sebw | |
---|---|
Sebw mewn cae ym Mrasil. | |
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Animalia |
Ffylwm: | Chordata |
Dosbarth: | |
Urdd: | Artiodactyla |
Teulu: | Bovidae |
Is-deulu: | Bovinae |
Genws: | Bos |
Rhywogaeth: | B. indicus |
Cyfystyron | |
Bos taurus indicus |
Rhywogaeth o fucholion dof sydd yn frodorol i India yw'r sebw (lluosog: sebwaid, sebwod),[1] ych yr India,[1] neu ych Brahman (Bos indicus). Mae ganddo grwbi cnodiog ar draws ei war, dagell fawr, cyrn byrion crwm a chlustiau llipa. Gall fod o liw melynddu, llwyd neu ddu.
Mae'n wrthiannol i wres a sychder, ac yn ymwrthol i glefydau a gludir gan bryfed, a fe'i defnyddir fel anifail gwaith ar draws Asia ac Affrica. Cyflwynwyd y sebw hefyd i'r Amerig fel da byw yng nghanol y 19g, a chaiff ei groesfridio â gwartheg eraill ar gyfer cig eidion.[2]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 Geiriadur yr Academi.
- ↑ (Saesneg) Brahman cattle. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 10 Rhagfyr 2021.