Meirion Evans
Archdderwydd
Gweinidog a bardd Cymraeg yw Meirion Evans.
Ganed ef yn Felindre, Abertawe. Enillodd y Goron yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Caernarfon 1979. Roedd yr amgylchiadau braidd yn anarferol; dyfarnwyd y Goron yn wreiddiol i T. James Jones, ond wedi iddi ddod yn amlwg fod ei gerdd yn gywaith, ataliwyd y wobr oddi wrtho a'i dyfarnu i Meirion Evans. Bu'n Archdderwydd rhwng 1999 a 2002.
Llyfryddiaeth
golygu- Y corn olew: cyfrol o gerddi (Cyhoeddiadau Barddas, 1986)
- Straeon Ffas a Ffridd (Gomer, 1996/7)
- Rhofio a Rhwyfo (Gomer, 1998)