Maravi
Gwladwriaeth a sefydlwyd gan gangen o'r bobloedd Bantu yn ystod y 16g oedd Maravi. Lleolid Maravi o gwmpas Llyn Malawi, yn enwedig yr ardal sy'n awr yn wlad Malawi. Dywedir fod yr enw "Malawi" yn dod o "Maravi".
Math | gwlad ar un adeg |
---|---|
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Gerllaw | Llyn Malawi |
Cyfesurynnau | 15°S 35°E |
Tyfodd tiriogaeth y wladwriaeth i ymestyn o ardaloedd Tumbuka a Tonga yn y gogledd i ran isaf afon Shire yn y de, ac i'r gorllewin cyn belled a dyffrynoedd Luangwa a Zambezi. Roedd rheolwyr Maravi yn perthyn i dylwyth y Phiri, ac yn dwyn y teitl Kalonga. Manthimba oedd eu prifddinas. Prif iaith y Maravi oedd Chichewa. Erbyn y 19g, roedd y Maravi yn dioddef oherwydd ymosodiadau eu cymdogion, yr Yao, ac yn aml yn cael eu gwerthu fel caethweision.