Isaac Clarke
Roedd Isaac Clarke (1824 – 5 Ebrill 1875) yn berchennog papur newydd, argraffydd a chyhoeddwr yn Rhuthun. Ef gyhoeddodd anthem genedlaethol Cymru, Hen Wlad fy Nhadau, am y tro cyntaf.
Isaac Clarke | |
---|---|
Ganwyd | 1824 Yr Wyddgrug |
Bu farw | 5 Ebrill 1875 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | cyhoeddwr, argraffydd, perchennog papur newydd |
Nid yw dyddiad geni Clarke yn hysbys, ond gwyddom iddo gael ei fedyddio yn Eglwys Plwyf yr Wyddgrug ar 24 Ebrill 1824. Ei rieni oedd Robert a Ruth Clarke o Goed-llai. Ffermwr oedd ei dad, ond dewisodd yntau ddilyn trywydd gwahanol gan fwrw prentisiaeth fel argraffydd gyda Hugh Jones yn yr Wyddgrug. Yn 1845, fe'i penodwyd yn oruchwyliwr i gwmni argraffu Nathan Maddocks yn Rhuthun. Yn 1850, sefydlodd ei argraffdy ei hun yn 6 Stryd y Ffynnon, bellach yn 'Siop Nain'.
Mae cofeb iddo yn Eglwys Sant Pedr, Rhuthun, ac arno nodir iddo farw ar 5 Ebrill 1875.
Hen Wlad fy Nhadau
golyguYn argraffdy Isaac Clarke yn 'Siop Nain' y gosodwyd Hen Wlad fy Nhadau mewn print am y tro cyntaf. Roedd y darn wedi'i gyflwyno gan ei gyfansoddwr James James (Iago ap Ieuan) o Pontypridd i gystadleuaeth yn Eisteddfod Genedlaethol Llangollen yn 1858. Roedd yn un o gasgliad o alawon gwerin nad oedd wedi'u cyhoeddi o'r blaen. Er na fu James yn fuddugol gyda'i gasgliad, gwnaeth y darn argraff ar y beirniad Owain Alaw, ac ysgrifennodd at James James i ofyn a gai ei gynnwys yn ei gyfrol Gems of Welsh Melody. Cytunodd James iddo gael ei gyhoeddi, a chyhoeddwyd y gyfrol yn 1860, ond dywedir ei fod yn siomedig gyda'r addasiadau wnaeth Owain Alaw iddi.