[go: up one dir, main page]

Gwenynddail

genws o blanhigion
Gwenynddail
Scrophularia nodosa
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Plantae
Ddim wedi'i restru: Angiosbermau
Ddim wedi'i restru: Ewdicotau
Ddim wedi'i restru: Asteridau
Urdd: Lamiales
Teulu: Scrophulariaceae
Genws: Scrophularia
L.
Rhywogaethau

tua 200

Planhigyn blodeuol ydy Gwenynddail neu gwrnerth (Saesneg: Figwort; Lladin: Scrophularia) a cheir dros 200 aelod o'r teulu hwn, sy'n gyffredin iawn yn Asia, gyda rhyw ychydig ohonynt yn tyfu yn Ewrop. Mewn croes-doriad, mae'r bonyn yn sgwâr a cheir dail mewn parau cyferbyn â'i gilydd. Nid yw'n tyfu yng Ngogledd Cymru ond ceir digonedd yn y de, yn enwedig ar yr arfordir.[1]

Rhinweddau meddygol

golygu

Yn ôl Galw Iechyd Cymru (adain o'r NHS) gall "helpu gyda'r boen a'r cosi" a achosir gan ddolur a anwyd.[2] Gall leddfu poenau ecsema neu croenlid hefyd a goreuro'r galon.

Cyfeiriadau

golygu
  1. Gwefan Saesneg yn cynnwys map o Gymru NBN Gateway[dolen farw]
  2. "Gwefan Galw Iechyd Cymru". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2010-08-30. Cyrchwyd 2009-10-29.

Gweler hefyd

golygu