Edwin Benson
Athro iaith oedd Edwin James Benson (23 Hydref 1931 – 9 Rhagfyr 2016; Mandaneg: Ma-doke-wa-des-she, orgraff fodern: Wéroke Wáatashe, y Beison Haearn) ac yn siaradwr brodorol olaf yr iaith Fandaneg (Nu'eta).
Edwin Benson | |
---|---|
Ganwyd | 23 Hydref 1931 |
Bu farw | 9 Rhagfyr 2016 |
Galwedigaeth | athro iaith |
Ganwyd yn Elbow Woods, ar Diriogaeth Fort Berthold yn Swydd McLean, Gogledd Dakota. Bu farw ei fam pan oedd Edwin yn un mlwydd oed, a chafodd ei fagu gan ei daid, Ben Benson (Buffalo Bullhead), yn yr iaith Fandaneg.[1] Dirywiodd sefyllfa'r iaith yn sylweddol o ganlyniad i epidemig y frech wen yn y 1830au a'r ysgolion gwrth-frodorol hyd at ganol yr 20g. Cafodd plant eu cosbi'n gorfforol am siarad eu hiaith frodorol yn yr ysgol.[2] Roedd Edwin yn byw ger cydlif Afon Fach ac Afon Fawr y Missouri. Pan adeiladwyd Argae Garrison, gorfodwyd 90% o aelodau'r llwythi Mandan, Hidatsa ac Arikara i ail-leoli.[3] Symudodd Edwin a'i deulu i Twin Buttes, Gogledd Dakota. Gellir cymharu'r profiad hyn â helynt Tryweryn a'r iaith Gymraeg, ond ar raddfa fwyach o lawer.[4]
Ffermwr oedd Benson yn wreiddiol, ond oherwydd ei ruglder cafodd ei dynnu i'r ymdrechion i gadw'r Fandaneg yn fyw. Gweithiodd gyda'r ieithydd a chynghorydd brodorol Cory Spotted Bear ac ymchwilwyr o Brifysgol Indiana i gadw cofnod o'r iaith.[2] Addysgodd Mandaneg yn Ysgol Gynradd Twin Buttes ers 1991, ac enillodd ddoethuriaeth er anrhydedd gan Brifysgol Gogledd Dakota yn 2009.[3]
Ni ddysgodd Mandaneg i'w blant. Roedd Edwin ym medru'r Fandaneg a'r Hidatsa, a'i wraig yn siarad Lakota, ond dim ond y Saesneg a ddysgodd eu merched.[2]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ (Saesneg) Turtle Island Storyteller Edwin Benson ar wefan Wisdom of the Elders. Adalwyd ar 21 Rhagfyr 2016.
- ↑ 2.0 2.1 2.2 (Saesneg) Lauren Donovan. Last Mandan speaker occupied lonely place, Bismarck Tribune (13 Rhagfyr 2016). Adalwyd ar 21 Rhagfyr 2016.
- ↑ 3.0 3.1 (Saesneg) Jodi Rave. The last speaker: UND to honor Mandan, last to speak Nu'eta as 1st language, The Missoulian (11 Mai 2009). Adalwyd ar 21 Rhagfyr 2016.
- ↑ Iaith ‘Madog’ wedi marw, Golwg360 (21 Rhagfyr 2016). Adalwyd ar 21 Rhagfyr 2016.