Cosi
Llid ar y croen sy'n peri atgyrch i grafu yw cosi, prwritis, cosfa neu'r goglais. Mae cosi yn symptom cyffredin iawn o nifer o gyflyrau meddygol ac yn aml bu brech neu smotyn lle mae'n digwydd. Gall effeithio ar unrhyw rhan o'r corff, a gall digwydd dros y corff cyfan neu mewn un man lleoledig yn unig.[1]
Cosi | |
Dosbarthiad ac adnoddau allanol | |
ICD-10 | L29. |
---|---|
ICD-9 | 698 |
DiseasesDB | 25363 |
MedlinePlus | 003217 |
eMedicine | derm/946 |
MeSH | [1] |
Achosion
golyguAchosir cosi gan ystod eang o glefydau, heintiau, a chyflyrau meddygol. Maent yn cynnwys:[2]
- clefydau megis diabetes math 1 a math 2, clefyd thyroid (isthyroidedd), methiant arennol difrifol, ac anemia oherwydd diffyg haearn;
- rhai cyflyrau sy'n effeithio ar yr afu megis sirosis bustlog sylfaenol, canser yr afu, a hepatitis;
- cyflyrau ar y croen, megis ecsema, soriasis, lichen planus, acne rhosynnaidd, gwres pigog (brech goslyd iawn a fydd yn ymddangos yn ystod tywydd poeth, llaith), llosg haul, a chroen sych;
- heintiau, megis brech yr ieir, y dwymyn goch, haint ffyngaidd sy'n gallu achosi cosi ar y corff (tarwden), yn yr afl, neu rhwng bysedd y traed (tarwden y traed), a candidasis sy'n achosi cosi yn rhan allanol yr organau rhywiol benywaidd;
- pryfed megis llau corff, pen, ac arffed, gwiddonyn sy'n achosi clefyd y crafu, a brathau a phigiadau pryfed; a
- beichiogrwydd, lle mae cosi yn symptom cyffredin, ond gall hefyd fod yn symptom cynnar o colestasis obstetrig (a chynghorir i fenywod beichiog sy'n profi cosi i'w wirio gan feddyg neu fydwraig, yn arbennig yn ystod y trydydd tymor gan y bydd yn arwain at farwanedigaeth).
Gall cosi hefyd gael ei achosi gan adwaith i feddyginiaeth neu adwaith alergaidd i lawer o bethau, megis cosmetigau, ffabrigau, metelau penodol (e.e. nicel), neu gysylltiad â phlanhigion gwenwynig neu blanhigion sy'n pigo. Fel arfer, bydd gwaldiau coch coslyd llosg danadl ar wyneb y croen yn adwaith alergaidd i fwyd neu feddyginiaeth.[2]
Diagnosis
golyguCynghorir i unigolion sydd yn dioddef o gosi difrifol, yn para am amser hir, yn ailadroddus, neu'n gysylltiedig â symptomau eraill megis problemau anadlu neu chwyddo, i ymweld â meddyg i gael diagnosis. Gall cosi ar hyd y corff cyfan, heb unrhyw achos amlwg neu yn ystod beichiogrwydd, bod yn symptom cyflwr sylfaenol difrifol.[3]
Triniaeth
golyguMae triniaeth y llid hwn yn dibynnu ar achos y cosi. Defnyddir meddyginiaeth a chyngor hunanofal i'w drin.
Cyngor
golyguCynghorir cleifion sydd yn dioddef o gosi i geisio peidio â chrafu, sydd yn llidio'r croen ymhellach gan arwain at fwy o gosi a mwy o grafu. Cynghorir i gleifion cadw eu hewinedd yn fyr i helpu wrthsefyll yr atgyrch, ac i geisio binsio'r croen ger y cosi rhwng y bawd a'r mynegfys drwy'r dillad, gan fydd hyn yn creu llai o ddifrod na chrafu uniongyrchol. Cynghorir i wisgo dillad cotwm os bosib, yn hytrach na deunyddiau sy'n achosi llid megis gwlân a rhai ffabrigau synthetig, ac i wisgo dillad gwely claear, ysgafn, a llac. Gall osgoi treulio amser mewn amgylcheddau poeth a llaith hefyd helpu trin cosi.[4]
Cynghorir hefyd i gleifion gael cawodydd neu fathiau claear neu lugoer yn hytrach na phoeth, i beidio â defnyddio sebonau, geliau cawod, na diaroglyddion persawrus a llidus, ac ar ôl cael bath i ddefnyddio elïau sy'n cynnwys lleithyddion i atal y croen rhag sychu. Gall ychwanegu ychydig o sodiwm deucarbonad at y dŵr bath neu drochi croen y pen neu'r traed â sodiwn deucarbonad, trochi mewn bath â dwy gwpan o geirch rholiedig wedi'u sicrhau mewn hosan, a defnyddio clwtyn oer neu hylif calamin lliniarol hefyd helpu i leddfu cosi.[4]
Meddyginiaeth
golyguMae triniaethau meddyginiaethol ar gyfer cosi yn cynnwys cyffuriau gwrth-histamin geneuol i reoli adweithiau alergaidd ac felly cosi, a ellir eu prynu dros y cownter; maent yn gallu helpu'r claf i gysgu ac yn torri'r cylch cosi-crafu. Gall hufen hydrocortison dros y cownter trin mannau coslyd lleoledig. Gall meddyg ragnodi meddyginiaethau penodol hefyd megis corticosteroidau argroenol, a hylifau megis cynhwysion actif a steroidau ar ffurf cymysgedd hylif neu gel i drin mannau llai hygyrch neu fannau blewog, yn hytrach na defnyddio hufenau gludiog.[4]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Cosi: Cyflwyniad. Gwyddoniadur Iechyd. Galw Iechyd Cymru. Adalwyd ar 13 Medi, 2009.
- ↑ 2.0 2.1 Cosi: Achosion. Gwyddoniadur Iechyd. Galw Iechyd Cymru. Adalwyd ar 13 Medi, 2009.
- ↑ Cosi: Diagnosis. Gwyddoniadur Iechyd. Galw Iechyd Cymru. Adalwyd ar 16 Medi, 2009.
- ↑ 4.0 4.1 4.2 Cosi: Triniaeth. Gwyddoniadur Iechyd. Galw Iechyd Cymru. Adalwyd ar 17 Medi, 2009.