Colombia
Gwlad yng ngogledd-orllewin De America yw Gweriniaeth Colombia neu Colombia (Sbaeneg: República de Colombia, /re'puβ̞lika ð̞e ko'lombja/). Mae'n ffinio â Feneswela a Brasil i'r dwyrain, Ecwador a Pheriw i'r de, y Cefnfor Iwerydd i'r gogledd (trwy Fôr y Caribî), a Phanama a'r Cefnfor Tawel i'r gorllewin. Colombia yw'r unig wlad yn Ne America gydag arfordiroedd â'r Cefnforoedd Iwerydd a Thawel.
Gweriniaeth Colombia República de Colombia (Sbaeneg) | |
Arwyddair | Rhyddid a Threfn |
---|---|
Math | gwladwriaeth sofran, gweriniaeth, gwladwriaeth seciwlar, gwlad |
Enwyd ar ôl | Christopher Columbus |
Prifddinas | Bogotá |
Poblogaeth | 52,321,152 |
Sefydlwyd | 20 Gorffennaf 1810 (Datganiad o Annibyniaeth (oddi wrth Sbaen) |
Anthem | Himno Nacional de la República de Colombia |
Pennaeth llywodraeth | Gustavo Petro |
Cylchfa amser | UTC−05:00, America/Bogota |
Iaith/Ieithoedd swyddogol | Sbaeneg |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | America Ladin, De America, America Sbaenig, Ibero-America |
Gwlad | Colombia |
Arwynebedd | 1,141,748 ±1 km² |
Uwch y môr | 223 metr |
Yn ffinio gyda | Ecwador, Panamâ, Periw, Feneswela, Brasil, Nicaragwa |
Cyfesurynnau | 4°N 73.25°W |
Gwleidyddiaeth | |
Corff gweithredol | Llywodraeth Colombia |
Corff deddfwriaethol | Cynghres Colombia |
Swydd pennaeth y wladwriaeth | Arlywydd Colombia |
Pennaeth y wladwriaeth | Gustavo Petro |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | Arlywydd Colombia |
Pennaeth y Llywodraeth | Gustavo Petro |
Ariannol | |
Cyfanswm CMC (GDP) | $318,512 million, $343,939 million |
Arian | Colombian peso |
Canran y diwaith | 9.4 canran |
Cyfartaledd plant | 1.897 |
Mynegai Datblygiad Dynol | 0.752 |
Colombia yw'r wlad fwyaf ond tri yn Ne America yn nhermau arwynebedd (yn dilyn Brasil, yr Ariannin a Pheriw), a'r mwyaf ond un yn nhermau poblogaeth (yn dilyn Brasil). Mae'r mwyafrif o Golombiaid yn byw yng ngorllewin mynyddig y wlad, lle lleolir y brifddinas Bogotá a'r rhan fwyaf o ddinasoedd eraill. Mae daearyddiaeth amrywiol gan Golombia, o gopaon eiraog yr Andes i wastatiroedd twym, llaith Afon Amazonas.
Am y pedair degawd diwethaf, dioddefa Colombia gwrthdaro arfog ar raddfa fechan sy'n cynnwys mudiadau gwrthryfelwyr herwfilwrol, milisiâu, a masnachu cyffuriau. Dechreuodd y gwrthdaro tua 1964-1966, pan sefydlwyd yr FARC a'r ELN a dechreuont eu hymgyrchoedd gwrthryfelgar herwfilwrol yn erbyn y llywodraethau olynol. Ers etholiad Álvaro Uribe fel Arlywydd Colombia, mae sefyllfa diogelwch y wlad wedi gwella rhywfaint.
Daearyddiaeth
golyguGallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu at yr adran hon.
Hanes
golyguGallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu at yr adran hon.
Gwleidyddiaeth
golyguGallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu at yr adran hon.
Diwylliant
golyguGallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu at yr adran hon.
Economi
golyguMae'r wlad yn enwog fel un o'r cynhyrchwyr coffi mwyaf yn y byd. Mae tyfu coca yn ddiwydiant traddodiadol hefyd.
Dolenni allanol
golygu- (Sbaeneg) Gwefan swyddogol Arlywydd Colombia
- (Sbaeneg) Gwefan swyddogol Senedd Colombia